36 Ond pan fydd dy bobl wedi pechu yn dy erbyn di (achos does neb sydd byth yn pechu!) a tithau'n wyllt gyda nhw, byddi'n gadael i'r gelyn eu dal nhw a'u cymryd yn gaeth i'w gwlad eu hunain, ble bynnag mae honno.
37 Yna, yn y wlad ble maen nhw'n gaeth, byddan nhw'n callio ac yn newid eu ffyrdd. Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti ac yn pledio'n daer gan ddweud, ‘Dŷn ni wedi pechu a bod yn anffyddlon a gwneud drwg.’
38 Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti o ddifrif yn y wlad lle cawson nhw eu cymryd. Byddan nhw'n troi i weddïo tuag at eu gwlad a'r ddinas rwyt ti wedi ei dewis, a'r deml dw i wedi ei hadeiladu i ti.
39 Gwranda o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a'u cefnogi nhw. Maddau i dy bobl yr holl bechodau a'r pethau drwg maen nhw wedi eu gwneud yn dy erbyn di.
40 Felly, o Dduw, edrych a gwrando ar y gweddïau sy'n cael eu hoffrymu yn y lle yma.
41 A nawr, o ARGLWYDD Dduw, dos i fyny i dy gartref – ti a dy Arch bwerus! Ac ARGLWYDD Dduw, boed i dy offeiriaid brofi dy achubiaeth. A boed i'r rhai sy'n ffyddlon i ti lawenhau yn dy ddaioni.
42 O ARGLWYDD Dduw, paid troi cefn ar yr un wyt wedi ei eneinio. Cofia'r bendithion gafodd eu haddo i dy was Dafydd.”