7 Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.
8 Ond dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae'r bwriad yn un da.
9 Ond nid ti fydd yn ei hadeiladu. Mab wedi ei eni i ti fydd yn adeiladu teml i mi.’
10 A bellach mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth roedd wedi ei addo. Dw i wedi dod yn frenin ar Israel yn lle fy nhad Dafydd, a dw i wedi adeiladu'r deml yma i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.
11 Dw i wedi gosod yno yr Arch sy'n dal yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD gyda phobl Israel.”
12 Yna o flaen pawb, dyma fe'n mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i'r awyr.
13 (Roedd Solomon wedi gwneud llwyfan o bres a'i osod yng nghanol yr iard. Roedd y llwyfan tua dwy fedr sgwâr, a dros fedr o uchder.) Safodd ar y llwyfan, yna mynd ar ei liniau o flaen pobl Israel i gyd a codi ei ddwylo i'r awyr,