1 Wrth i Solomon orffen gweddïo, daeth tân i lawr o'r awyr a llosgi'r offrwm a'r aberthau. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml.
2 Roedd yr offeiriaid yn methu mynd i mewn i deml yr ARGLWYDD am fod ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi ei deml.
3 Pan welodd pobl Israel y tân yn dod i lawr ac ysblander yr ARGLWYDD ar y deml, dyma nhw'n plygu ar eu gliniau a'u hwynebau ar y palmant. Roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD a diolch iddo drwy ddweud,“Mae e mor dda aton ni;Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
4 Roedd y brenin, a'r bobl i gyd, yn aberthu anifeiliaid i'r ARGLWYDD.
5 Dyma'r brenin Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a cant dau ddeg mil o ddefaid. Dyna sut gwnaeth Solomon, a'r holl bobl, gyflwyno'r deml i Dduw.
6 Roedd yr offeiriaid yn sefyll yn eu lle, gyda'r Lefiaid oedd yn canu'r offerynnau i foli'r ARGLWYDD. (Yr offerynnau oedd y Brenin Dafydd wedi eu gwneud a'u defnyddio ganddo i addoli a chanu, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”) Gyferbyn â'r Lefiaid roedd yr offeiriaid yn canu'r utgyrn, tra roedd y dyrfa yn sefyll.
7 Dyma Solomon yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna ble wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres wnaeth Solomon yn rhy fach i ddal yr holl offrymau.