10 Roedd yna ddau gant pum deg ohonyn nhw yn gweithio i'r Brenin Solomon fel arolygwyr dros y bobl.
11 Yna dyma Solomon yn symud merch y Pharo o ddinas Dafydd i'r palas roedd e wedi ei adeiladu iddi. “Does dim gwraig i mi yn cael byw ym mhalas Dafydd, brenin Israel – achos mae ble bynnag mae Arch yr ARGLWYDD wedi bod yn gysegredig.”
12 Yna dyma Solomon yn cyflwyno aberthau i'w llosgi i'r ARGLWYDD ar yr allor roedd wedi ei chodi o flaen cyntedd y deml.
13 Roedd yn gwneud hyn yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn – bob dydd, ar bob Saboth, ar Ŵyl y lleuad newydd bob mis, ac ar y tair gŵyl fawr arall bob blwyddyn (sef Gŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf a Gŵyl y Pebyll).
14 Fel roedd ei dad Dafydd wedi gorchymyn, trefnodd yr offeiriaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu cyfrifoldebau. Trefnodd y Lefiaid i arwain y mawl ac i helpu'r offeiriaid fel roedd angen pob dydd. Hefyd gosododd ofalwyr y giatiau yn eu grwpiau i fod yn gyfrifol am y gwahanol giatiau. Roedd Dafydd, dyn Duw, wedi trefnu hyn i gyd.
15 Wnaethon nhw ddim anghofio unrhyw un o orchmynion y brenin am yr offeiriaid, y Lefiaid, y trysordai a phopeth arall.
16 Cafodd yr holl waith orchmynodd Solomon ei wneud, o'r diwrnod y cafodd y sylfaeni eu gosod nes roedd y deml wedi ei gorffen. Dyna sut cafodd teml yr ARGLWYDD ei hadeiladu.