1 Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon. Felly dyma hi'n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd. Cyrhaeddodd Jerwsalem yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario sbeisiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a'i holi am bob peth oedd ar ei meddwl.
2 Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi.
3 Roedd brenhines Sheba wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. A hefyd wrth weld y palas roedd wedi ei adeiladu,
4 y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r ARGLWYDD yn y deml.
5 A dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir – yr holl bethau rwyt ti wedi eu cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti.
6 Doeddwn i ddim wedi credu'r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â'm llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb mawr yn fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i.
7 Mae'r bobl yma wedi eu bendithio'n fawr – y gweision sy'n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di.