11 Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a palas y brenin o'r pren algwm, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Doedd neb wedi gweld dim byd tebyg iddyn nhw yng ngwlad Jwda cyn hynny!)
12 Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn rhoi i frenhines Sheba bopeth roedd hi'n gofyn amdano – mwy nag roedd hi wedi ei roi i'r brenin. Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision.
13 Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn,
14 heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr a'r farchnad sbeis. Roedd holl frenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau hefyd yn rhoi arian ac aur i Solomon.
15 Dyma Solomon yn gwneud dau gant o darianau mawr o aur wedi ei guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian!
16 Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron dwy cilogram o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny yn Plas Coedwig Libanus.
17 Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori, wedi ei gorchuddio gydag aur pur.