18 Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd stôl droed aur o'i blaen a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau ar y ddwy ochr.
19 Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi!
20 Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi eu gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi ei wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri'n werthfawr iawn bryd hynny.
21 Roedd gan Solomon fflyd o longau masnach mawr gyda gweision Huram yn eu hwylio. Bob tair blynedd roedd y llongau hynny'n dod yn ôl gydag aur, arian, ifori, mwncïod a pheunod.
22 Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nac unrhyw frenin arall yn unman.
23 Ac roedd brenhinoedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y ddoethineb roedd yr ARGLWYDD wedi ei roi iddo.
24 Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod.