22 Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nac unrhyw frenin arall yn unman.
23 Ac roedd brenhinoedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y ddoethineb roedd yr ARGLWYDD wedi ei roi iddo.
24 Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod.
25 Roedd gan Solomon stablau i bedair mil o geffylau cerbyd rhyfel, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw nhw yn rhai trefi penodol ac yn Jerwsalem.
26 Roedd yn rheoli'r holl wledydd o Afon Ewffrates i wlad y Philistiaid, i lawr at y ffin gyda'r Aifft.
27 Roedd arian mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir.
28 Roedd ceffylau Solomon wedi eu mewnforio o'r Aifft a'r gwledydd eraill i gyd.