25 Roedd gan Solomon stablau i bedair mil o geffylau cerbyd rhyfel, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw nhw yn rhai trefi penodol ac yn Jerwsalem.
26 Roedd yn rheoli'r holl wledydd o Afon Ewffrates i wlad y Philistiaid, i lawr at y ffin gyda'r Aifft.
27 Roedd arian mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir.
28 Roedd ceffylau Solomon wedi eu mewnforio o'r Aifft a'r gwledydd eraill i gyd.
29 Mae gweddill hanes Solomon, o'r dechrau i'r diwedd, i'w weld yn Negeseuon y Proffwyd Nathan, Proffwydoliaeth Achïa o Seilo a Gweledigaethau y Proffwyd Ido am Jeroboam fab Nebat.
30 Roedd Solomon yn teyrnasu yn Jerwsalem ar Israel gyfan am bedwar deg o flynyddoedd.
31 Pan fuodd Solomon farw, dyma nhw'n ei gladdu e yn Ninas Dafydd ei dad. A dyma Rehoboam, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.