7 Mae'r bobl yma wedi eu bendithio'n fawr – y gweision sy'n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di.
8 Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth dy ddewis di i deyrnasu ar ei ran! Am fod dy Dduw yn caru Israel ac eisiau iddyn nhw aros am byth, mae wedi dy wneud di yn frenin, i ti lywodraethu'n gyfiawn ac yn deg.”
9 A dyma hi'n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o berlysiau a gemau gwerthfawr i'r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau a'r hyn roedd brenhines Sheba wedi ei roi i'r Brenin Solomon.
10 (Hefyd roedd gweision Huram, gyda help gweision Solomon, wedi cario aur o Offir, a llwythi lawer o goed algwm, a gemau gwerthfawr.
11 Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a palas y brenin o'r pren algwm, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Doedd neb wedi gweld dim byd tebyg iddyn nhw yng ngwlad Jwda cyn hynny!)
12 Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn rhoi i frenhines Sheba bopeth roedd hi'n gofyn amdano – mwy nag roedd hi wedi ei roi i'r brenin. Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision.
13 Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn,