13 Ces fy nal yn ôl am dair wythnos gan arweinydd teyrnas Persia. Ond yna dyma Michael, un o'r prif arweinwyr, yn dod i'm helpu pan oeddwn i'n sefyll yn erbyn brenhinoedd Persia ar fy mhen fy hun.
14 Ond dw i yma nawr, i dy helpu di i ddeall beth sy'n mynd i ddigwydd i dy bobl yn y dyfodol. Gweledigaeth am y dyfodol ydy hi.”
15 Tra roedd yn siarad roeddwn i'n edrych i lawr, ac yn methu dweud gair.
16 Yna dyma un oedd yn edrych fel person dynol yn cyffwrdd fy ngwefusau, a dyma fi'n dechrau siarad. “Syr,” meddwn i wrtho, “mae beth dw i wedi ei weld yn ormod i'w gymryd. Dw i'n teimlo'n hollol wan.
17 Meistr, sut alla i sydd ddim ond gwas, siarad â rhywun fel ti? Does gen i ddim nerth ar ôl. Dw i prin yn gallu anadlu!”
18 Yna dyma'r un oedd yn edrych fel person dynol yn fy nghyffwrdd i eto, a rhoi nerth i mi.
19 “Paid bod ag ofn,” meddai. “Ti'n ddyn sbesial iawn yng ngolwg Duw. Bydd popeth yn iawn. Bydd yn ddewr! Bydd yn ddewr go iawn!” Wrth iddo siarad roeddwn i'n teimlo fy hun yn cryfhau. A dyma fi'n dweud, “Gelli siarad nawr, syr. Rwyt ti wedi gwneud i mi deimlo'n well.”