Daniel 12 BNET

Rhan pedwar: y meirw yn dod yn ôl yn fyw

1 Bryd hynny bydd Michael yn codi –yr arweinydd mawr sy'n gofalu am dy bobl.Bydd amser caled – gwaeth na dimmae'r wlad wedi ei brofi erioed o'r blaen.Ond bydd dy bobl di yn dianc –pawb sydd â'i henwau wedi eu hysgrifennu yn y llyfr.

2 Bydd llawer o'r rhai sy'n gorwedd yn farw,wedi eu claddu ym mhridd y ddaear, yn deffro –rhai i fywyd tragwyddolac eraill i gywilydd bodolaeth ffiaidd.

3 Ond bydd y rhai doeth yn disgleirio fel golau dydd.Bydd y rhai sy'n arwain y werin bobl i fyw mewn perthynas iawn â Duwyn disgleirio fel sêr am byth bythoedd.

4 “Rhaid i ti, Daniel, gadw'r neges yma'n gyfrinachol a selio'r sgrôl nes bydd y diwedd wedi dod. Bydd llawer yn rhuthro yma ac acw yn ceisio deall beth sy'n digwydd.”

Y diwedd

5 Yna dyma fi, Daniel, yn gweld dau arall yn sefyll yna – un bob ochr i'r afon.

6 Dyma un ohonyn nhw'n dweud wrth y dyn oedd mewn gwisg o liain, oedd erbyn hyn yn sefyll uwch ben yr afon, “Pryd mae'r pethau mawr yma'n mynd i ddigwydd?”

7 A dyma'r dyn oedd mewn gwisg o liain ac yn sefyll uwch ben yr afon, yn codi ei ddwy law i'r awyr ac yn tyngu ar lw i'r Un sy'n byw am byth: “Mae am gyfnod, dau gyfnod a hanner cyfnod. Wedyn pan fydd grym yr un sy'n sathru pobl gysegredig Duw wedi dod i ben bydd y diwedd wedi dod.”

8 Roeddwn i wedi ei glywed, ond ddim yn deall. Felly dyma fi'n gofyn, “Syr, beth fydd yn digwydd yn y diwedd?”

9 Atebodd, “Dos di, Daniel. Mae'r neges yma i'w gadw'n gyfrinachol ac wedi ei selio nes bydd y diwedd wedi dod.

10 Bydd llawer o bobl yn cael eu puro, eu glanhau a'u coethi drwy'r cwbl. Ond bydd pobl ddrwg yn dal ati i wneud drwg. Fyddan nhw ddim yn deall. Dim ond y rhai doeth fydd yn deall beth sy'n digwydd.

11 O'r amser pan fydd yr aberthu dyddiol yn cael ei stopio a'r eilun ffiaidd sy'n dinistrio yn cael ei godi yn ei le, mae mil dau gant naw deg o ddyddiau.

12 Mae'r rhai sy'n disgwyl yn ffyddlon nes bydd mil tri chant tri deg pump o ddyddiau wedi mynd heibio wedi eu bendithio'n fawr.

13 “Felly dos di yn dy flaen. Gelli fod yn dawel dy feddwl. Pan ddaw'r diwedd, byddi di'n codi i dderbyn dy wobr.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12