Daniel 7 BNET

Gweledigaethau Daniel

Gweledigaeth Daniel o'r Pedwar CreadurPedwar Creadur Mae'n bosib mai un ffynhonnell tu cefn i'r darluniau yma ydy Hosea 13:7-8

1 Yn ystod blwyddyn gyntaf teyrnasiad Belshasar, brenin Babilon, cafodd Daniel freuddwyd – gweledigaeth tra roedd yn cysgu yn ei wely. Ysgrifennodd grynodeb o'r freuddwyd.

2 “Yn y weledigaeth ges i y noson honno roedd storm fawr ar y môr, a gwyntoedd yn chwythu o bob cyfeiriad.

3 A dyma bedwar creadur mawr yn codi allan o'r môr, pob un ohonyn nhw'n wahanol i'w gilydd.

4 “Roedd y cyntaf yn edrych fel llew, ond gydag adenydd fel eryr. Tra roeddwn i'n edrych, cafodd yr adenydd eu rhwygo oddi arno. Yna cafodd ei godi nes ei fod yn sefyll ar ei draed fel person dynol, a cafodd feddwl dynol.

5 “Wedyn dyma fi'n gweld ail greadur – un gwahanol. Roedd hwn yn edrych fel arth. Roedd yn symud o ochr i ochr, ac roedd ganddo dair asen yn ei geg, rhwng ei ddannedd. A dyma lais yn dweud wrtho, ‘Dos! Ymosod, a llarpio llawer o bobl!’

6 “Yna, wrth i mi edrych, dyma greadur arall yn dod i'r golwg. Roedd hwn yn edrych fel llewpard, ond roedd ganddo bedair o adenydd ar ei gefn, fel adenydd adar. Roedd gan y creadur yma bedwar pen, a chafodd awdurdod i lywodraethu.

7 “Wedyn, yn y weledigaeth ges i y noson honno, dyma bedwerydd creadur yn dod i'r golwg. Roedd hwn yn un erchyll, dychrynllyd, ac yn ofnadwy o gryf. Roedd ganddo ddwy res o ddannedd haearn. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru beth bynnag oedd ar ôl dan draed. Roedd yn hollol wahanol i'r creaduriaid eraill, ac roedd ganddo ddeg corn.

8 “Tra roeddwn i'n edrych ar y cyrn, dyma gorn arall – un bach – yn codi rhyngddyn nhw. Dyma dri o'r cyrn eraill yn cael eu gwthio o'u gwraidd i wneud lle i'r un bach. Roedd gan y corn yma lygaid tebyg i lygaid person dynol, a cheg oedd yn brolio pethau mawr.

Gweledigaeth o'r Un Hynafol a'r un oedd fel person dynol

9 “Wrth i mi syllu arno,cafodd gorseddau eu gosod i fyny,a dyma'r Un Hynafol yn eistedd.Roedd ei ddillad yn wyn fel eira,a'i wallt fel gwlân oen.Roedd ei orsedd yn fflamau tân,a'i holwynion yn wenfflam.

10 Roedd afon o dân yn llifoallan oddi wrtho.Roedd miloedd ar filoedd yn ei wasanaethu,a miliynau lawer yn sefyll o'i flaen.Eisteddodd y llys, ac agorwyd y llyfrau.

11 “Ro'n i'n dal i edrych wrth i'r corn bach ddal ati i frolio pethau mawr. Ac wrth i mi edrych dyma'r pedwerydd creadur yn cael ei ladd a'i daflu i'r tân.

12 (Cafodd yr awdurdod i lywodraethu ei gymryd oddi ar y creaduriaid eraill, er eu bod wedi cael byw am gyfnod ar ôl hynny).

13 “Yn fy ngweledigaeth y noson honno,gwelais un oedd yn edrych fel person dynolyn dod ar gymylau'r awyr.Aeth i fyny at yr Un Hynafol –cafodd ei gymryd ato.

14 A derbyniodd awdurdod, anrhydedd a grym.Roedd rhaid i bawb, o bob gwlad ac iaith ei anrhydeddu.Mae ei awdurdod yn dragwyddol – fydd e byth yn dod i ben.Fydd ei deyrnasiad byth yn cael ei dinistrio.

Esbonio'r weledigaeth

15 “Roeddwn i, Daniel, wedi cynhyrfu'r tu mewn. Roedd y gweledigaethau wedi fy nychryn i.

16 Dyma fi'n mynd at un o'r rhai oedd yn sefyll yno, a gofyn beth oedd ystyr y cwbl. A dyma fe'n esbonio'r freuddwyd i mi.

17 “‘Mae'r pedwar creadur mawr yn cynrychioli pedwar brenin daearol fydd yn teyrnasu.

18 Ond yn y diwedd bydd pobl sanctaidd y Duw Goruchaf yn cael teyrnasu – byddan nhw'n teyrnasu am byth!’

19 “Ond wedyn roeddwn i eisiau gwybod mwy am y pedwerydd creadur, yr un oedd yn hollol wahanol i'r lleill. Roedd hwnnw'n wirioneddol ddychrynllyd gyda'i ddannedd haearn a'i grafangau pres. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru dan draed bopeth oedd yn dal i sefyll.

20 Roeddwn i hefyd eisiau gwybod beth oedd y deg corn ar ei ben, a'r corn bach gododd wedyn a gwneud i dri o'r lleill syrthio. Dyma'r corn oedd gyda llygaid, a cheg oedd yn brolio pethau mawr. Roedd y corn yma'n edrych yn gryfach na'r lleill.

21 Roeddwn i'n gweld y corn yma yn brwydro yn erbyn pobl sanctaidd Duw ac yn eu trechu nhw.

22 Dyna oedd yn digwydd hyd nes i'r Un Hynafol ddod a barnu o blaid pobl sanctaidd y Duw Goruchaf. A dyma nhw wedyn yn cael teyrnasu.

23 “Dyma ddwedodd wrtho i:‘Mae'r pedwerydd creaduryn cynrychioli ymerodraethfydd yn wahanol i bob teyrnas arall.Bydd yn llyncu'r byd i gyd,ac yn sathru pawb a phopeth.

24 Mae'r deg cornyn cynrychioli deg breninfydd yn teyrnasu ar yr ymerodraeth.Ond wedyn bydd brenin arall yn codi –brenin gwahanol i'r lleill.Bydd yn bwrw i lawr dri brenin o'i flaen.

25 Bydd yn herio'r Duw Goruchafac yn cam-drin ei bobl sanctaidd.Bydd yn ceisio newid yr amserau osodwyd yn y gyfraith,a bydd pobl Dduw dan ei reolaetham gyfnod, dau gyfnod, a hanner cyfnod.

26 Yna wedi i'r llys eisteddbydd ei awdurdod yn cael ei gymryd oddi arno,a'i ddinistrio'n llwyr – am byth!

27 Bydd awdurdod brenhinol a grympob teyrnas dan y nefyn cael ei roi i bobl sanctaidd Duw.Mae Duw yn teyrnasu'n dragwyddol,a bydd pob awdurdod arall yn ei wasanaethuac yn ufudd iddo.’

28 “A dyna ddiwedd y weledigaeth. Roeddwn i, Daniel, wedi dychryn. Ro'n i'n welw. Ond cedwais y cwbl i mi fy hun.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12