Daniel 11 BNET

1 A dw i wedi bod yn ymladd a'i helpu e ers blwyddyn gyntaf teyrnasiad Dareius o Media.”

Neges yr angel i Daniel

Rhan un: y pedwar brenin a'u holynwyr

2 “Nawr, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wir yn mynd i ddigwydd: Mae tri brenin arall yn mynd i deyrnasu ar Persia. Ac wedyn pedwerydd, fydd yn llawer mwy cyfoethog na nhw i gyd. Bydd yn defnyddio ei gyfoeth i gael pawb i ymladd gydag e yn erbyn teyrnas y Groegiaid.

3 Yna bydd brenin pwerus yn codi. Bydd ganddo deyrnas anferth, a bydd yn gwneud beth bynnag fydd e eisiau.

4 Yn fuan ar ôl iddo ddod i rym bydd ei ymerodraeth yn rhannu'n bedair. Ond dim ei blant fydd yn teyrnasu, a fydd y deyrnas ddim mor ddylanwadol ag oedd hi. Bydd yn cael ei rhwygo gan eraill a'i rhannu rhyngddyn nhw.

5 “Wedyn bydd brenin y de yn dod i rym. Ond bydd un o'i swyddogion ei hun yn gryfach, ac yn codi yn ei erbyn. Bydd ei deyrnas e yn fwy fyth.

6 Ar ôl rhai blynyddoedd bydd cynghrair yn cael ei sefydlu rhwng brenin y gogledd a brenin y de. Bydd merch brenin y de yn priodi brenin y gogledd i selio'r cytundeb. Ond fydd ei dylanwad hi ddim yn para, a fydd e ddim yn aros mewn grym chwaith. Bydd hi, ei gweision a'i morynion, ei phlentyn, a'i thad yn cael eu lladd.“Ond yna

7 bydd un o'i pherthnasau hi yn codi i'r orsedd yn lle ei dad. Bydd yn ymosod ar fyddin brenin y gogledd, yn meddiannu ei gaer, ac yn ennill buddugoliaeth fawr.

8 Bydd yn mynd â'i duwiau nhw yn ôl i'r Aifft, y delwau i gyd a'r holl lestri gwerthfawr o aur ac arian. Ond bydd yn gadael llonydd i frenin y gogledd am rai blynyddoedd ar ôl hynny.

9 Ac wedyn bydd brenin y gogledd yn ymosod ar deyrnas brenin y de; ond fydd e ddim yn llwyddiannus – bydd rhaid iddo fynd yn ôl i'w wlad ei hun.

10 Yna bydd ei feibion yn casglu byddin enfawr i fynd i ryfel, a bydd y fyddin yn dod fel llif ac yn ymosod dro ar ôl tro, gan dorri trwodd yr holl ffordd at gaer brenin y de.

11 “Bydd brenin y de wedi ei gythruddo, ac yn dod allan i ymladd yn erbyn brenin y gogledd ac yn trechu'r fyddin enfawr oedd hwnnw wedi ei chasglu.

12 Ar ôl llwyddo i yrru byddin y gelyn i ffwrdd, bydd brenin y de yn meddwl ei fod yn anorchfygol. Bydd yn achosi hil-laddiad miloedd ar filoedd o bobl. Ond fydd ei lwyddiant ddim yn para'n hir.

13 Mewn ychydig flynyddoedd, bydd brenin y gogledd yn dod yn ôl gyda byddin fwy fyth. Bydd yn ymosod ar y de gyda byddin aruthrol fawr a digonedd o arfau.

14 “Yn y cyfamser bydd llawer o rai eraill yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de. Bydd eithafwyr o blith dy bobl dy hun yn codi, yn breuddwydio y gallan nhw lwyddo, ond methu wnân nhw.

15 Ond yna bydd brenin y gogledd yn dod ac yn codi rampiau gwarchae, a choncro dinas gaerog ddiogel. Fydd byddin y de ddim yn llwyddo i'w hamddiffyn. Fydd y milwyr gorau yno ddim yn gallu eu stopio nhw.

16 Bydd yr ymosodwr yn gwneud beth bynnag mae e eisiau, a fydd neb yn gallu ei rwystro. Bydd yn concro'r Wlad Hardd, a bydd y gallu ganddo i'w dinistrio'n llwyr.

17 Ei nod fydd rheoli'r ymerodraeth gyfan. Bydd yn cynnig telerau heddwch ac yn cynnig ffurfio cynghrair drwy roi un o'i ferched yn wraig i frenin y de. Ei fwriad fydd dinistrio teyrnas y de, ond fydd ei gynllun ddim yn llwyddo.

18 “Bydd yn troi ei olygon wedyn at y dinasoedd o gwmpas Môr y Canoldir, ac yn concro llawer ohonyn nhw. Ond bydd arweinydd byddin arall yn rhoi stop ar y gormes. Bydd y gormeswr yn cael ei ormesu!

19 Felly bydd yn troi am adre i amddiffyn ei wlad ei hun, ond bydd e'n syrthio, a bydd e'n diflannu unwaith ac am byth.

20 “Bydd ei olynydd yn anfon un allan i godi trethi afresymol i gynnal cyfoeth ac ysblander y frenhiniaeth. Ond fydd e ddim yn teyrnasu'n hir. Bydd e'n marw, ond ddim yn gyhoeddus nac mewn brwydr.

Rhan dau: y brenin drwg o'r gogledd

21 “Ar ôl hwnnw bydd dyn cwbl ffiaidd yn cymryd yr orsedd – er mai nid fe oedd yn yr olyniaeth. Bydd yn llwyddo i gipio grym yn gwbl ddi-drafferth drwy gynllwyn a thwyll.

22 Bydd grym milwrol enfawr yn cael ei drechu a'i ddinistrio ganddo. A bydd yr arweinydd crefyddol yn cael ei ladd hefyd.

23 Bydd yn gwneud addewidion twyllodrus i sefydlu cytundebau heddwch. Ond yna'n dwyn y grym i gyd gyda chriw bach o gefnogwyr.

24 Wedyn, pan fydd pobl gyfoethocaf y wlad yn teimlo'n saff, bydd yn gwneud rhywbeth na wnaeth neb o'i hynafiaid. Bydd yn dwyn eu cyfoeth ac yn ei rannu i'w gefnogwyr. Yna bydd yn cynllunio i ymosod ar drefi caerog eraill, ond fydd hyn ddim yn para'n hir iawn.

25 “Bydd yn mynd ati i ddangos ei hun drwy godi byddin fawr yn erbyn brenin y de. Bydd brenin y de yn ymladd yn ei erbyn gyda byddin fwy fyth, ond ddim yn llwyddo am fod cynllwyn yn ei erbyn.

26 Bydd ei uchel-swyddogion ei hun yn ei dorri. Bydd ei fyddin yn cael ei hysgubo i ffwrdd, a bydd llawer iawn yn cael eu lladd.

27 Bydd y ddau frenin yn cyfarfod wrth y bwrdd i drafod telerau heddwch. Ond bwriad y ddau fel ei gilydd fydd gwneud drwg i'r llall, a fyddan nhw'n gwneud dim ond dweud celwydd wrth ei gilydd. Ond fydd hynny'n gwneud dim gwahaniaeth am fod yr amser yn dod pan fydd y cwbl yn dod i ben.

28 Bydd brenin y gogledd yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun gyda llwythi o gyfoeth. Ar ei ffordd yn ôl, ei fwriad fydd delio gyda phobl yr ymrwymiad sanctaidd. Ar ôl gwneud hynny bydd yn mynd adre.

29 “Y flwyddyn wedyn bydd yn ymosod ar y de eto, ond fydd pethau ddim yr un fath y tro yma.

30 Bydd llongau rhyfel o'r gorllewin yn dod yn ei erbyn, a bydd yn colli ei hyder. Bydd yn troi yn ôl, ac ar ei ffordd adre yn dangos ei rwystredigaeth drwy gam-drin pobl yr ymrwymiad sanctaidd. Bydd yn gwobrwyo'r rhai sy'n troi cefn ar eu crefydd.

31 Bydd ei fyddin yn mynd i mewn i'r deml ac yn ei halogi. Bydd yn stopio'r aberthu dyddiol, ac yn codi eilun ffiaidd sy'n dinistrio yno.

32 Bydd yn defnyddio gweniaith i lygru'r rhai sydd wedi bod yn anffyddlon i'r ymrwymiad. Ond bydd y bobl sy'n nabod Duw yn sefyll yn gryf yn ei erbyn.

33 Bydd y rhai doeth yn dysgu trwch y boblogaeth beth i'w wneud. Ond bydd cyfnod anodd yn dilyn, pan fydd llawer yn cael eu lladd gan y cleddyf, eu llosgi, eu caethiwo, ac yn colli popeth.

34 Pan fydd hyn yn digwydd, byddan nhw'n cael rhywfaint o help. Ond fydd llawer o'r rhai fydd yn ymuno â nhw ddim wir o ddifrif.

35 Bydd hyd yn oed rhai o'r arweinwyr doeth yn syrthio. Bydd hyn yn rhan o'r coethi, y puro a'r glanhau sydd i ddigwydd cyn i'r diwedd ddod. Ac mae'r diwedd hwnnw yn sicr o ddod.

36 “Bydd y brenin yn gwneud beth bynnag mae e eisiau. Bydd yn brolio ei fod e'i hun yn fwy na'r duwiau i gyd; a bydd yn dweud pethau hollol warthus yn erbyn y Duw mawr. A bydd yn llwyddo i ddianc, nes bydd y cyfnod o ddigofaint wedi dod i ben. Mae beth sydd wedi ei benderfynu yn mynd i ddigwydd.

37 Fydd e'n dangos dim parch at dduwiau ei hynafiaid, hyd yn oed ffefryn y merched. Fydd e'n dangos dim parch at unrhyw dduw. Bydd yn brolio ei fod e'i hun yn fwy na nhw i gyd.

38 Yn eu lle nhw bydd yn addoli duw'r canolfannau milwrol – duw doedd ei hynafiaid yn gwybod dim amdano. Bydd yn tywallt aur, arian, gemau ac anrhegion costus eraill arno.

39 Bydd yn ymosod ar ganolfannau milwrol eraill gyda help duw estron. Bydd yn anrhydeddu'r rhai sy'n ildio iddo. Bydd yn rhoi awdurdod iddyn nhw ac yn rhannu'r tir rhyngddyn nhw.

Rhan tri: y diwedd

40 “Yna yn y diwedd bydd brenin y de yn codi yn ei erbyn. Ond bydd brenin y gogledd yn ei daro yn ôl yn galed gyda cerbydau, marchogion, a llynges o longau rhyfel. Bydd yn concro gwledydd ac yn ysgubo trwyddyn nhw fel afon wedi gorlifo.

41 Bydd yn goresgyn y Wlad Hardd. Bydd llawer o wledydd yn cael eu concro, ond bydd Edom, Moab ac arweinwyr Ammon yn cael dianc.

42 Wrth iddo ymestyn allan bydd yn taro un wlad ar ôl y llall. Fydd hyd yn oed yr Aifft ddim yn dianc.

43 Bydd yn rheoli holl drysorau'r Aifft – yr aur, yr arian, a phopeth arall. Bydd Libia a Cwsh yn ildio iddo.

44 “Ond yna, bydd adroddiadau o'r dwyrain a'r gogledd yn achosi panig. Bydd yn mynd allan yn wyllt i ddinistrio a lladd llawer iawn o bobl.

45 Bydd yn codi ei babell frenhinol i wersylla rhwng Môr y Canoldir a'r Mynydd Cysegredig. Dyna ble bydd yn cwrdd â'i ddiwedd, a fydd neb yn gallu ei helpu.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12