Daniel 8 BNET

Gweledigaeth yr hwrdd a'r bwch gafr

1 Yn ystod trydedd flwyddyn teyrnasiad Belshasar, ces i, Daniel, weledigaeth arall. Roedd hon yn dilyn yr un roeddwn wedi ei chael o'r blaen.

2 Y tro hwn gwelais fy hun yn Shwshan, y gaer sydd yn nhalaith Elam. Roeddwn yn sefyll wrth ymyl Camlas Wlai.

3 A gwelais hwrdd yn sefyll wrth ymyl y gamlas. Roedd gan yr hwrdd ddau gorn hir, ond roedd un corn yn hirach na'r llall, er ei fod wedi dechrau tyfu ar ôl y llall.

4 Roedd yr hwrdd yn rhuthro, ac yn ymosod ar bopeth i'r gorllewin, gogledd a de. Doedd dim un anifail arall yn gallu sefyll yn ei erbyn na'i rwystro. Roedd yn gwneud fel y mynnai, ac yn brolio'i hun.

5 Tra roeddwn i'n edrych ar hyn, dyma fwch gafr yn dod dros y tir o gyfeiriad y gorllewin. Roedd yn symud mor gyflym doedd ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr. Roedd gan y bwch un corn amlwg ar ganol ei dalcen.

6 Daeth at yr hwrdd gyda'r ddau gorn roeddwn i wedi ei weld wrth y gamlas, a rhuthro'n ffyrnig yn ei erbyn.

7 Roeddwn yn edrych arno'n ymosod yn wyllt ar yr hwrdd, a'i daro mor galed nes iddo dorri dau gorn yr hwrdd. Doedd gan yr hwrdd ddim gobaith! Dyma'r bwch gafr yn bwrw'r hwrdd i lawr, a'i sathru dan draed. Doedd neb yn gallu achub yr hwrdd o'i afael.

8 Tyfodd y bwch gafr mor fawr nes ei fod yn brolio fwy fyth. Ond pan oedd ar ei gryfaf, dyma ei gorn anferth yn cael ei dorri. Yn ei le tyfodd pedwar corn mawr oedd yn pwyntio, un i bob cyfeiriad.

9 Ond yna, allan o un ohonyn nhw, dyma gorn bach arall yn codi. Roedd yn fach i ddechrau, ond tyfodd yn fawr iawn, ac ymestyn i gyfeiriad y de a'r dwyrain, ac i gyfeiriad y Wlad Hardd.

10 Tyfodd mor dal nes iddo gyrraedd y fyddin nefol, a bwrw rhai ohonyn nhw (sef y sêr) i lawr, a'i sathru nhw dan draed.

11 Ond aeth mor bell â herio Tywysog y fyddin nefol. Stopiodd yr aberthu dyddiol, a dinistrio ei deml.

12 Roedd ei fyddin yn sefyll yn erbyn yr aberthu dyddiol fel gweithred o wrthryfel, a disodli'r gwir. Roedd yn llwyddo i wneud beth bynnag oedd e eisiau.

13 Wedyn dyma fi'n clywed bod sanctaidd yn siarad, ac un sanctaidd arall yn gofyn iddo. “Am faint mwy mae hyn yn mynd i fynd ymlaen – y gwrthryfel yma sy'n stopio'r aberthu dyddiol, a'r deml a'r fyddin yn cael eu sathru dan draed?”

14 Atebodd y llall, “Am ddwy fil tri chant bore a hwyr. Wedyn bydd y deml yn cael ei gwneud yn iawn eto.”

Yr angel Gabriel yn esbonio'r weledigaeth

15 Roeddwn i, Daniel, yn edrych ar hyn i gyd, ac yn ceisio gwneud sens o'r cwbl. Yna'n sydyn, roedd un oedd yn edrych fel person dynol yn sefyll o'm blaen i.

16 A dyma fi'n clywed llais rhywun yn galw o gyfeiriad Camlas Wlai, “Gabriel, esbonia i'r dyn yma beth sy'n digwydd.”

17 Felly dyma fe'n dod ata i. Roedd gen i ofn am fy mywyd, a dyma fi'n disgyn ar fy ngwyneb ar lawr o'i flaen. A dyma fe'n dweud, “Ddyn, rhaid i ti ddeall mai gweledigaeth am y diwedd ydy hon.”

18 Wrth iddo ddweud hyn dyma fi'n llewygu. Roeddwn i'n fflat ar fy ngwyneb ar lawr. Ond dyma fe'n cyffwrdd fi, a'm codi ar fy nhraed.

19 Yna dwedodd, “Dw i'n mynd i ddweud wrthot ti beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod o ddigofaint. Gweledigaeth am y diwedd ydy hon.

20 Mae'r hwrdd welaist ti, gyda dau gorn, yn cynrychioli brenhinoedd Media a Persia.

21 Y bwch gafr welaist ti ydy brenin y Groegiaid, a'r corn mawr ar ganol ei dalcen ydy'r brenin cyntaf.

22 Mae'r pedwar corn ddaeth yn lle'r un gafodd ei dorri, yn dangos y bydd Ymerodraeth Groeg yn rhannu'n bedair teyrnas. Ond fydd dim un ohonyn nhw mor gryf â'r gyntaf.

23 Pan fydd y teyrnasoedd yma ar fin dod i ben,a'i gwrthryfel ar ei waethaf,bydd brenin caled, twyllodrus yn codi.

24 Bydd yn troi'n bwerus iawn(ond ddim drwy ei nerth ei hun).Bydd yn achosi'r dinistr mwyaf ofnadwy.Bydd yn llwyddo i wneud beth bynnag mae e eisiau.Bydd yn dinistrio'r bobl mae'r angylion yn eu hamddiffyn.

25 Bydd yn llwyddo i dwyllo llawer drwy ei glyfrwch,ac yn brolio ei fawredd ei hun.Bydd yn dinistrio llawer o bobl sy'n meddwl eu bod yn saff.Bydd yn herio'r un sy'n Dywysog ar dywysogion,ond yna'n sydyn bydd yn cael ei dorri gan law anweledig.

26 “Mae'r weledigaeth am y dwy fil tri chant bore a hwyr yn wir, ond i'w selio a'i chadw o'r golwg. Mae'n sôn am amser yn y dyfodol pell.”

27 Roeddwn i, Daniel, yn swp sâl am rai dyddiau. Ond yna, ar ôl gwella, dyma fi'n cario mlaen i weithio i'r brenin. Ond roedd y weledigaeth wedi fy syfrdanu. Doedd hi ddim yn gwneud sens i mi.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12