Daniel 2 BNET

Breuddwyd Nebwchadnesar

1 Yn ystod yr ail flwyddyn pan oedd Nebwchadnesar yn frenin cafodd freuddwyd oedd yn ei boeni gymaint roedd yn colli cwsg am y peth.

2 Dyma fe'n galw'r swynwyr, y dewiniaid, y consurwyr a'r dynion doeth at ei gilydd i esbonio'r freuddwyd iddo. Dyma nhw'n dod a sefyll o flaen y brenin.

3 A dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi cael breuddwyd, a dw i eisiau gwybod beth ydy'r ystyr.”

4 A dyma'r dynion doeth yn ateb [yn Aramaeg], “O frenin! Boed i chi fyw am byth! Dwedwch beth oedd y freuddwyd wrth eich gweision, a gwnawn ni ddweud beth mae'n ei olygu.”

5 “Na,” meddai'r brenin, “yn bendant ddim. Dw i wedi penderfynu fod rhaid i chi ddweud beth oedd y freuddwyd a beth mae'n ei olygu. Os na wnewch chi bydd eich cyrff chi'n cael eu rhwygo'n ddarnau, a'ch cartrefi chi'n cael eu troi'n domen sbwriel!

6 Ond os gallwch chi ddweud wrtho i beth oedd y freuddwyd ges i, a beth mae'n ei olygu bydda i'n pentyrru anrhegion, gwobrau ac anrhydeddau arnoch chi. Felly dwedwch beth oedd y freuddwyd, a beth mae'n ei olygu!”

7 Ond dyma nhw'n dweud eto, “Os bydd y brenin mor garedig â dweud wrthon ni beth oedd y freuddwyd, gwnawn ni ddweud wrtho beth mae'n ei olygu.”

8 “Dw i'n deall eich gêm chi,” meddai'r brenin. “Dych chi'n gweld mor benderfynol ydw i a dych chi'n chwarae am amser.

9 Os wnewch chi ddim dweud wrtho i beth oedd y freuddwyd bydd hi ar ben arnoch chi. Dych chi'n mynd i wneud rhyw esgusion a hel straeon celwyddog yn y gobaith y bydd y sefyllfa'n newid. Felly dwedwch wrtho i beth oedd y freuddwyd. Bydd hi'n amlwg i mi wedyn eich bod chi yn gallu esbonio'r ystyr.”

10 A dyma'r dynion doeth yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear allai wneud beth mae'r brenin yn ei ofyn. A does yna erioed frenin (sdim ots pa mor bwerus oedd e) wedi gofyn y fath beth i'w ddewiniaid, ei swynwyr neu ei ddynion doeth.

11 Mae'r brenin yn gofyn am rywbeth sy'n amhosib! Dim ond y duwiau sy'n gwybod yr ateb – a dŷn nhw ddim yma gyda ni!”

12 Pan glywodd hynny, dyma'r brenin yn gwylltio'n lân, a gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu lladd.

13 Roedd y gorchymyn ar fin cael ei weithredu, ac roedd Daniel a'i ffrindiau'n mynd i gael eu dienyddio hefyd.

Duw yn dangos ystyr y freuddwyd i Daniel

14 Ond dyma Daniel yn cael gair yng nghlust Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, oedd wedi mynd allan i ddienyddio'r dynion doeth i gyd.

15 Gofynnodd i Arioch, “Capten, pam mae'r brenin wedi rhoi gorchymyn mor galed?” A dyma Arioch yn dweud beth oedd wedi digwydd.

16 Felly dyma Daniel yn gofyn i'r brenin roi ychydig amser iddo, a byddai'n esbonio iddo beth oedd ystyr y freuddwyd.

17 Wedyn aeth Daniel adre, a dweud wrth ei ffrindiau Hananeia, Mishael ac Asareia am y peth.

18 Gofynnodd iddyn nhw weddïo y byddai Duw y nefoedd yn drugarog, ac yn dweud wrthyn nhw beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd. Wedyn fydden nhw ddim yn cael eu dienyddio gyda gweddill dynion doeth Babilon.

19 Y noson honno dyma Daniel yn cael yr ateb i'r dirgelwch, mewn gweledigaeth yn ystod y nos. A dyma fe'n moli Duw y nefoedd,

20 a dweud,“Boed i enw Duw gael ei foli am byth!Mae e'n Dduw doeth a chryf.

21 Fe sy'n rheoli amser ac yn arwain hanes.Fe sy'n codi brenhinoedd ac yn eu diorseddu nhw.Fe sy'n rhoi doethineb i'r doeth,a gwybodaeth i bobl ddeallus.

22 Mae e'n datguddio pethau sy'n ddirgelwch llwyr.Mae e'n gweld beth sy'n y tywyllwch;mae golau o'i gwmpas e bob amser.

23 Dw i'n dy foli di! Clod i ti! O Dduw fy hynafiaid.Rwyt ti wedi rhoi doethineb a nerth i mi.Ti wedi dangos beth roedden ni angen ei wybod,a rhoi i mi'r ateb i gwestiwn y brenin.”

Daniel yn esbonio ystyr y freuddwyd i'r brenin

24 Felly dyma Daniel yn mynd at Arioch, oedd wedi cael y gwaith o ladd dynion doeth Babilon i gyd. Dwedodd wrtho, “Paid lladd dynion doeth Babilon. Dos â fi i weld y brenin. Gwna i ddweud wrtho beth ydy ystyr y freuddwyd.”

25 Felly'n syth bin dyma Arioch yn mynd â Daniel i weld y brenin, a dweud wrtho, “Dw i wedi dod o hyd i ddyn, un o gaethion Jwda, sy'n gallu dweud wrth y brenin beth ydy ystyr ei freuddwyd!”

26 Dyma'r brenin yn gofyn i Daniel (oedd yn cael ei alw yn Belteshasar), “Ydy hyn yn wir? Wyt ti'n gallu dweud beth oedd y freuddwyd, a dweud wrtho i beth mae'n ei olygu?”

27 Dyma Daniel yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear – dynion doeth, swynwyr, dewiniaid na chonsurwyr – yn gallu datrys y dirgelwch yma i'r brenin.

28 Ond mae yna Dduw yn y nefoedd sy'n gallu dangos ystyr pob dirgelwch. Mae'r Duw yma wedi dangos i Nebwchadnesar beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol.“Dyma beth welaist ti yn dy freuddwyd:

29 Tra roedd y brenin yn cysgu yn ei wely cafodd freuddwyd am bethau yn y dyfodol. Dangosodd yr Un sy'n datrys pob dirgelwch bethau sy'n mynd i ddigwydd.

30 Dw i ddim wedi cael yr ateb i'r dirgelwch am fy mod i'n fwy doeth na phawb arall, ond am fod Duw eisiau i'r brenin ddeall y freuddwyd gafodd e.

31 “Eich mawrhydi, beth welsoch chi oedd cerflun anferth – roedd yn aruthrol fawr ac yn disgleirio'n llachar. Roedd yn ddigon i ddychryn unrhyw un.

32 Roedd pen y cerflun wedi ei wneud o aur, ei frest a'i freichiau yn arian, ei fol a'i gluniau yn bres,

33 ei goesau yn haearn, a'i draed yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith.

34 Tra roeddech chi'n edrych arno dyma garreg yn cael ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig. Dyma'r garreg yn taro'r cerflun ar ei draed, ac yn eu malu nhw'n ddarnau.

35 A dyma'r cerflun anferth yn syrthio'n ddarnau – yr haearn, crochenwaith, pres, arian ac aur. Roedd y cwbl yn ddarnau mân, fel us ar lawr dyrnu. A cafodd y cwbl ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Doedd dim sôn amdano. Ond wedyn dyma'r garreg wnaeth daro'r cerflun yn troi yn fynydd enfawr oedd i'w weld yn amlwg drwy'r byd i gyd.

36 “Dyna oedd y freuddwyd. A nawr, fe esbonia i beth ydy ystyr y cwbl i'r brenin:

37 Eich mawrhydi, dych chi'n frenin ar frenhinoedd lawer. Mae Duw y nefoedd wedi rhoi awdurdod, pŵer, grym ac anrhydedd i chi.

38 Dych chi'n teyrnasu ar y byd i gyd – ble bynnag mae pobl, anifeiliaid gwylltion ac adar yn byw. Chi ydy'r pen o aur.

39 Ond bydd teyrnas arall yn dod ar eich ôl chi; fydd hi ddim mor fawr â'ch ymerodraeth chi. Ar ôl hynny bydd trydedd teyrnas yn codi i reoli'r byd i gyd – dyma'r un o bres.

40 Wedyn bydd y bedwaredd deyrnas yn codi. Bydd hon yn gryf fel haearn. Yn union fel mae haearn yn malu popeth mae'n ei daro, bydd y deyrnas yma yn dinistrio a sathru popeth aeth o'i blaen.

41 Ac wedyn y traed a'r bodiau welsoch chi (oedd yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith) – bydd hon yn deyrnas ranedig. Bydd ganddi beth o gryfder yr haearn ynddi, ond haearn wedi ei gymysgu â chrochenwaith ydy e.

42 Cymysgedd o gryfder yr haearn a breuder y crochenwaith.

43 Mae'r cymysgedd hefyd yn dangos y bydd pobloedd yn cymysgu trwy briodas, ond ddim yn aros gyda'i gilydd – yn union fel haearn a chrochenwaith, sydd ddim yn cymysgu gyda'i gilydd.

44 “Yn amser y brenhinoedd yna bydd Duw y nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio. Fydd y deyrnas yma byth yn cael ei choncro a'i chymryd drosodd gan bobl eraill. Bydd yn chwalu'r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth.

45 Dyna ystyr y garreg gafodd ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig, a malu'r cwbl yn ddarnau – yr haearn, y pres, y crochenwaith, yr arian a'r aur. Mae'r Duw mawr wedi dangos i'r brenin beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Dyna oedd y freuddwyd, ac mae'r esboniad yn gywir hefyd.”

Y brenin yn gwobrwyo Daniel

46 Dyma'r brenin Nebwchadnesar yn plygu o flaen Daniel â'i wyneb ar lawr, a gorchymyn cyflwyno aberthau a llosgi arogldarth iddo.

47 Dwedodd wrth Daniel, “Ti ydy'r unig un sydd wedi gallu datrys y dirgelwch. Felly, does dim amheuaeth fod dy Dduw di yn Dduw ar y duwiau i gyd, ac yn feistr ar bob brenin. Mae e'n gallu datguddio pob dirgelwch!”

48 Dyma'r brenin yn rhoi un o swyddi uchaf y deyrnas i Daniel, ac yn rhoi llwythi o anrhegion iddo. Gwnaeth Daniel yn Llywodraethwr talaith Babilon gyfan, ac yn bennaeth dynion doeth Babilon i gyd.

49 A gofynnodd Daniel i'r brenin apwyntio Shadrach, Meshach ac Abednego yn rheolwyr gweinyddiaeth talaith Babilon. Roedd Daniel yn weinidog yn llywodraeth y brenin.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12