Daniel 3 BNET

Duw yn achub Shadrach, Meshach, ac Abednego

Y gorchymyn i addoli'r Ddelw Aur

1 Dyma'r brenin Nebwchadnesar yn gwneud delw aur oedd yn 27 metr o uchder ac yn dri metr o led. Cafodd y cerflun ei osod ar wastadedd Dwra yn nhalaith Babilon.

2 Yna anfonodd orchymyn allan yn galw penaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion a'r llywodraethwyr i gyd at ei gilydd i seremoni dadorchuddio'r ddelw; hefyd rheolwyr a chomisiynwyr, cynghorwyr y brenin, trysoryddion, barnwyr, ynadon, a phawb arall o bwys.

3 A dyma nhw i gyd yn dod i'r seremoni. Roedd pawb yno, yn sefyll o flaen y ddelw oedd Nebwchadnesar wedi ei chodi.

4 Yna dyma swyddog yn cyhoeddi'n uchel, “Dyma orchymyn y brenin i bawb sydd yma, o bob gwlad ac iaith:

5 Pan fydd y gerddoriaeth yn dechrau – y corn, ffliwt, telyn, trigon, crythau, pibau a'r offerynnau eraill – mae pawb i blygu i lawr ac addoli y ddelw aur mae'r brenin Nebwchadnesar wedi ei chodi.

6 Bydd pwy bynnag sy'n gwrthod plygu ac addoli'r ddelw, yn cael eu taflu ar unwaith i mewn i ffwrnais o dân.”

7 Felly yr eiliad y clywodd y bobl yr offerynnau i gyd, dyma pawb, o bob gwlad ac iaith yn plygu i lawr ac yn addoli'r ddelw aur oedd Nebwchadnesar wedi ei chodi.

8 Ond dyma rai o'r dynion doeth yn mynd at y brenin, a dechrau lladd ar yr Iddewon.

9 “O frenin! Boed i chi fyw am byth!” medden nhw.

10 “Roeddech chi wedi gorchymyn fod pawb i blygu i lawr ac addoli'r ddelw aur pan oedden nhw'n clywed y gerddoriaeth yn dechrau.

11 A bod pwy bynnag sy'n gwrthod plygu ac addoli'r ddelw, i gael eu taflu i mewn i ffwrnais o dân.

12 Ond mae yna Iddewon yma – Shadrach, Meshach ac Abednego – gafodd eu penodi yn rheolwyr talaith Babilon gynnoch chi. Maen nhw wedi gwrthod gwrando, eich mawrhydi. Dŷn nhw ddim yn addoli eich duwiau chi, ac maen nhw'n gwrthod addoli y ddelw aur dych chi wedi ei chodi.”

13 Dyma Nebwchadnesar yn gwylltio'n lân, ac yn gorchymyn dod â Shadrach, Meshach ac Abednego o'i flaen. Felly dyma nhw'n dod â'r tri o flaen y brenin.

14 A dyma Nebwchadnesar yn gofyn iddyn nhw, “Shadrach, Meshach ac Abednego. Ydy e'n wir eich bod chi ddim yn addoli fy nuwiau i, a'ch bod chi wedi gwrthod addoli'r ddelw aur dw i wedi ei chodi?

15 Dw i'n fodlon rhoi un cyfle arall i chi. Pan fyddwch chi'n clywed yr offerynnau, os ydych chi'n barod i blygu i lawr ac addoli y ddelw dw i wedi ei chodi, bydd popeth yn iawn. Ond os byddwch chi'n gwrthod, byddwch chi'n cael eich taflu ar unwaith i mewn i'r ffwrnais o dân. Pa dduw sy'n mynd i'ch achub chi o'm gafael i wedyn?”

16 Ond dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn ateb y brenin, “Does dim pwynt i ni eich ateb chi.

17 Os ydy'r Duw dŷn ni'n ei addoli yn bodoli, bydd e'n gallu'n hachub ni o'r ffwrnais dân ac o'ch gafael chi, o frenin.

18 Ond hyd yn oed os ydy e ddim yn gwneud hynny, sdim gwahaniaeth. Does gynnon ni ddim bwriad addoli eich duwiau chi, na'r ddelw aur dych chi wedi ei chodi.”

Dedfrydu ffrindiau Daniel i farwolaeth

19 Roedd Nebwchadnesar yn lloerig gyda Shadrach, Meshach ac Abednego. Roedd ei wyneb yn dweud y cwbl! Rhoddodd orchymyn fod y ffwrnais i gael ei thanio saith gwaith poethach nag arfer.

20 Yna gorchmynnodd i ddynion cryfion o'r fyddin rwymo Shadrach, Meshach ac Abednego a'u taflu nhw i mewn i'r ffwrnais.

21 A dyma'r tri yn cael eu rhwymo a'u taflu i'r ffwrnais heb hyd yn oed dynnu eu dillad. Roedden nhw'n dal i wisgo'r cwbl – clogyn, trowsus, twrban, a phob dilledyn arall.

22 Am fod y brenin wedi gorchymyn gwneud y ffwrnais mor eithafol o boeth, dyma'r fflamau yn llamu allan o'r ffwrnais a lladd y milwyr wrth iddyn nhw daflu Shadrach, Meshach ac Abednego i'r tân.

23 Felly dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn syrthio, wedi eu rhwymo'n dynn, i ganol y tân yn y ffwrnais.

24 Ond yna'n sydyn dyma'r brenin Nebwchadnesar yn neidio ar ei draed mewn braw. “Onid tri dyn wnaethon ni eu rhwymo a'i taflu i'r tân?” meddai wrth ei gynghorwyr. “Ie, yn sicr,” medden nhw.

25 “Ond edrychwch!” gwaeddodd y brenin. “Dw i'n gweld pedwar o bobl, yn cerdded yn rhydd yng nghanol y tân. A dŷn nhw ddim wedi cael unrhyw niwed! Ac mae'r pedwerydd yn edrych fel petai'n fod dwyfol.”

Rhyddhau y tri, a rhoi swyddi uchel iddyn nhw

26 Dyma Nebwchadnesar yn mynd mor agos ac y gallai at ddrws y ffwrnais, a gweiddi: “Shadrach, Meshach, Abednego, gweision y Duw Goruchaf. Dowch allan! Dowch yma!” A dyma'r tri yn cerdded allan o'r tân.

27 Dyma benaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion, y llywodraethwyr a chynghorwyr y brenin i gyd yn casglu o'u cwmpas nhw. Doedd y tân ddim wedi eu llosgi nhw o gwbl, dim un blewyn. Doedd dim niwed i'w dillad. Doedd dim hyd yn oed arogl llosgi arnyn nhw!

28 Ac meddai Nebwchadnesar, “Moliant i Dduw Shadrach, Meshach ac Abednego! Anfonodd angel i achub ei weision oedd yn trystio ynddo. Roedden nhw'n fodlon herio gorchymyn y brenin, a hyd yn oed marw cyn addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain.

29 Felly dw i am ei wneud yn ddeddf fod neb o unrhyw wlad neu iaith i ddweud unrhyw beth yn erbyn Duw Shadrach, Meshach ac Abednego. Os gwnân nhw, bydd eu cyrff yn cael eu rhwygo'n ddarnau, a'u cartrefi yn cael eu troi'n domen sbwriel! Achos does yr un Duw arall yn gallu achub fel yma.”

30 A dyma'r brenin yn rhoi dyrchafiad a swyddi gwell fyth yn nhalaith Babilon i Shadrach, Meshach ac Abednego.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12