3 Ro'n i'n bwyta bwyd plaen – dim byd cyfoethog, dim cig na gwin. A wnes i ddim rhwbio olew ar fy nghorff nes oedd y tair wythnos drosodd.
4 Yna ar y pedwerydd ar hugain o'r mis cyntaf ron i'n sefyll ar lan yr afon fawr, y Tigris.
5 Gwelais ddyn yn sefyll o'm blaen i mewn gwisg o liain, gyda belt o aur pur Wffas am ei ganol.
6 Roedd ei gorff yn sgleinio fel meini saffir. Roedd ei wyneb yn llachar fel mellten, a'i lygaid fel fflamau o dân. Roedd ei freichiau a'i goesau yn gloywi fel pres wedi ei sgleinio. Ac roedd ei lais fel sŵn taranau.
7 Fi, Daniel, oedd yr unig un welodd hyn i gyd. Welodd y dynion oedd gyda mi ddim byd. Ond roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd i guddio.
8 Felly dyna lle roeddwn i'n sefyll yno ar fy mhen fy hun yn gwylio'r cwbl. Ro'n i'n teimlo fy hun yn mynd yn wan. Doedd gen i ddim egni ar ôl. Ro'n i'n hollol wan.
9 Pan glywais e'n dechrau siarad dyma fi'n llewygu. Ro'n i'n fflat ar fy ngwyneb ar lawr.