5 Gwelais ddyn yn sefyll o'm blaen i mewn gwisg o liain, gyda belt o aur pur Wffas am ei ganol.
6 Roedd ei gorff yn sgleinio fel meini saffir. Roedd ei wyneb yn llachar fel mellten, a'i lygaid fel fflamau o dân. Roedd ei freichiau a'i goesau yn gloywi fel pres wedi ei sgleinio. Ac roedd ei lais fel sŵn taranau.
7 Fi, Daniel, oedd yr unig un welodd hyn i gyd. Welodd y dynion oedd gyda mi ddim byd. Ond roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd i guddio.
8 Felly dyna lle roeddwn i'n sefyll yno ar fy mhen fy hun yn gwylio'r cwbl. Ro'n i'n teimlo fy hun yn mynd yn wan. Doedd gen i ddim egni ar ôl. Ro'n i'n hollol wan.
9 Pan glywais e'n dechrau siarad dyma fi'n llewygu. Ro'n i'n fflat ar fy ngwyneb ar lawr.
10 Ond yna dyma law yn fy nghyffwrdd, a'm codi ar fy nwylo a'm gliniau.
11 “Daniel,” meddai, “rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Gwranda ar beth dw i'n mynd i'w ddweud wrthot ti. Saf ar dy draed. Dw i wedi cael fy anfon atat ti.” Pan ddwedodd hyn, dyma fi'n sefyll ar fy nhraed, ond ron i'n dal i grynu.