2 “Nawr, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wir yn mynd i ddigwydd: Mae tri brenin arall yn mynd i deyrnasu ar Persia. Ac wedyn pedwerydd, fydd yn llawer mwy cyfoethog na nhw i gyd. Bydd yn defnyddio ei gyfoeth i gael pawb i ymladd gydag e yn erbyn teyrnas y Groegiaid.
3 Yna bydd brenin pwerus yn codi. Bydd ganddo deyrnas anferth, a bydd yn gwneud beth bynnag fydd e eisiau.
4 Yn fuan ar ôl iddo ddod i rym bydd ei ymerodraeth yn rhannu'n bedair. Ond dim ei blant fydd yn teyrnasu, a fydd y deyrnas ddim mor ddylanwadol ag oedd hi. Bydd yn cael ei rhwygo gan eraill a'i rhannu rhyngddyn nhw.
5 “Wedyn bydd brenin y de yn dod i rym. Ond bydd un o'i swyddogion ei hun yn gryfach, ac yn codi yn ei erbyn. Bydd ei deyrnas e yn fwy fyth.
6 Ar ôl rhai blynyddoedd bydd cynghrair yn cael ei sefydlu rhwng brenin y gogledd a brenin y de. Bydd merch brenin y de yn priodi brenin y gogledd i selio'r cytundeb. Ond fydd ei dylanwad hi ddim yn para, a fydd e ddim yn aros mewn grym chwaith. Bydd hi, ei gweision a'i morynion, ei phlentyn, a'i thad yn cael eu lladd.“Ond yna
7 bydd un o'i pherthnasau hi yn codi i'r orsedd yn lle ei dad. Bydd yn ymosod ar fyddin brenin y gogledd, yn meddiannu ei gaer, ac yn ennill buddugoliaeth fawr.
8 Bydd yn mynd â'i duwiau nhw yn ôl i'r Aifft, y delwau i gyd a'r holl lestri gwerthfawr o aur ac arian. Ond bydd yn gadael llonydd i frenin y gogledd am rai blynyddoedd ar ôl hynny.