7 bydd un o'i pherthnasau hi yn codi i'r orsedd yn lle ei dad. Bydd yn ymosod ar fyddin brenin y gogledd, yn meddiannu ei gaer, ac yn ennill buddugoliaeth fawr.
8 Bydd yn mynd â'i duwiau nhw yn ôl i'r Aifft, y delwau i gyd a'r holl lestri gwerthfawr o aur ac arian. Ond bydd yn gadael llonydd i frenin y gogledd am rai blynyddoedd ar ôl hynny.
9 Ac wedyn bydd brenin y gogledd yn ymosod ar deyrnas brenin y de; ond fydd e ddim yn llwyddiannus – bydd rhaid iddo fynd yn ôl i'w wlad ei hun.
10 Yna bydd ei feibion yn casglu byddin enfawr i fynd i ryfel, a bydd y fyddin yn dod fel llif ac yn ymosod dro ar ôl tro, gan dorri trwodd yr holl ffordd at gaer brenin y de.
11 “Bydd brenin y de wedi ei gythruddo, ac yn dod allan i ymladd yn erbyn brenin y gogledd ac yn trechu'r fyddin enfawr oedd hwnnw wedi ei chasglu.
12 Ar ôl llwyddo i yrru byddin y gelyn i ffwrdd, bydd brenin y de yn meddwl ei fod yn anorchfygol. Bydd yn achosi hil-laddiad miloedd ar filoedd o bobl. Ond fydd ei lwyddiant ddim yn para'n hir.
13 Mewn ychydig flynyddoedd, bydd brenin y gogledd yn dod yn ôl gyda byddin fwy fyth. Bydd yn ymosod ar y de gyda byddin aruthrol fawr a digonedd o arfau.