4 “Rhaid i ti, Daniel, gadw'r neges yma'n gyfrinachol a selio'r sgrôl nes bydd y diwedd wedi dod. Bydd llawer yn rhuthro yma ac acw yn ceisio deall beth sy'n digwydd.”
5 Yna dyma fi, Daniel, yn gweld dau arall yn sefyll yna – un bob ochr i'r afon.
6 Dyma un ohonyn nhw'n dweud wrth y dyn oedd mewn gwisg o liain, oedd erbyn hyn yn sefyll uwch ben yr afon, “Pryd mae'r pethau mawr yma'n mynd i ddigwydd?”
7 A dyma'r dyn oedd mewn gwisg o liain ac yn sefyll uwch ben yr afon, yn codi ei ddwy law i'r awyr ac yn tyngu ar lw i'r Un sy'n byw am byth: “Mae am gyfnod, dau gyfnod a hanner cyfnod. Wedyn pan fydd grym yr un sy'n sathru pobl gysegredig Duw wedi dod i ben bydd y diwedd wedi dod.”
8 Roeddwn i wedi ei glywed, ond ddim yn deall. Felly dyma fi'n gofyn, “Syr, beth fydd yn digwydd yn y diwedd?”
9 Atebodd, “Dos di, Daniel. Mae'r neges yma i'w gadw'n gyfrinachol ac wedi ei selio nes bydd y diwedd wedi dod.
10 Bydd llawer o bobl yn cael eu puro, eu glanhau a'u coethi drwy'r cwbl. Ond bydd pobl ddrwg yn dal ati i wneud drwg. Fyddan nhw ddim yn deall. Dim ond y rhai doeth fydd yn deall beth sy'n digwydd.