Daniel 4:14-20 BNET

14 Dyma fe'n gweiddi'n uchel,‘Torrwch y goeden i lawr, a thorri ei changhennau i ffwrdd!Tynnwch ei dail a chwalu ei ffrwyth!Gyrrwch yr anifeiliaid i ffwrdd,a heliwch yr adar o'i brigau!

15 Ond gadewch y boncyff a'r gwreiddiau yn y ddaear,gyda rhwymyn o haearn a phres amdano.Bydd y gwlith yn ei wlychugyda'r glaswellt o'i gwmpas;a bydd yn bwyta planhigion gwylltgyda'r anifeiliaid.

16 Bydd yn sâl yn feddyliol,ac yn meddwl ei fod yn anifail.Bydd yn aros felly am amser hir.

17 Mae'r angylion wedi cyhoeddi hyn,a'r rhai sanctaidd wedi rhoi'r ddedfryd!“‘Y bwriad ydy fod pob person byw i ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd. Mae'n gallu eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau, hyd yn oed y person mwyaf di-nod.’

18 “Dyna'r freuddwyd ges i,” meddai Nebwchadnesar. “Dw i eisiau i ti, Belteshasar, ddweud beth mae'n ei olygu. Does neb arall o ddynion doeth y deyrnas wedi gallu esbonio'r ystyr i mi. Ond dw i'n siŵr y byddi di'n gallu, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.”

19 Roedd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) dan deimlad am beth amser. Roedd beth oedd yn mynd trwy ei feddwl yn ei ddychryn. Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Belteshasar, paid poeni. Paid gadael i'r freuddwyd dy ddychryn di.” Ac meddai Belteshasar, “Meistr, o na fyddai'r freuddwyd wedi ei rhoi i'ch gelynion chi, a'i hystyr ar gyfer y rhai sy'n eich casáu chi!

20 Y goeden welsoch chi'n tyfu'n fawr ac yn gref, yn ymestyn mor uchel i'r awyr nes ei bod i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd –