Daniel 4:17-23 BNET

17 Mae'r angylion wedi cyhoeddi hyn,a'r rhai sanctaidd wedi rhoi'r ddedfryd!“‘Y bwriad ydy fod pob person byw i ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd. Mae'n gallu eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau, hyd yn oed y person mwyaf di-nod.’

18 “Dyna'r freuddwyd ges i,” meddai Nebwchadnesar. “Dw i eisiau i ti, Belteshasar, ddweud beth mae'n ei olygu. Does neb arall o ddynion doeth y deyrnas wedi gallu esbonio'r ystyr i mi. Ond dw i'n siŵr y byddi di'n gallu, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.”

19 Roedd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) dan deimlad am beth amser. Roedd beth oedd yn mynd trwy ei feddwl yn ei ddychryn. Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Belteshasar, paid poeni. Paid gadael i'r freuddwyd dy ddychryn di.” Ac meddai Belteshasar, “Meistr, o na fyddai'r freuddwyd wedi ei rhoi i'ch gelynion chi, a'i hystyr ar gyfer y rhai sy'n eich casáu chi!

20 Y goeden welsoch chi'n tyfu'n fawr ac yn gref, yn ymestyn mor uchel i'r awyr nes ei bod i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd –

21 yr un gyda dail hardd a digonedd o ffrwyth arni, a'r anifeiliaid gwylltion yn cysgodi dani, a'r adar yn nythu yn ei brigau –

22 chi ydy'r goeden yna, eich mawrhydi. Dych chi'n frenin mawr a chryf. Dych chi mor fawr, mae'ch awdurdod chi dros y byd i gyd.

23 Ond wedyn dyma chi'n gweld angel yn dod i lawr o'r nefoedd, ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden i lawr, a'i dinistrio, ond gadewch y boncyff yn y ddaear gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Fel y glaswellt o'i gwmpas, bydd y gwlith yn ei wlychu, a bydd yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion am amser hir.’