25 Byddwch chi'n cael eich cymryd allan o gymdeithas, ac yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion. Byddwch chi'n bwyta glaswellt fel ychen, ac allan yn yr awyr agored yn cael eich gwlychu gan wlith. Bydd amser hir yn mynd heibio, nes i chi ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.
26 Ond fel y boncyff a'r gwreiddiau yn cael eu gadael, byddwch chi'n cael eich teyrnas yn ôl pan fyddwch chi'n cydnabod fod yr Un nefol yn rheoli'r cwbl.
27 Felly plîs ga i roi cyngor i chi, eich mawrhydi. Trowch gefn ar eich pechod, a gwneud y peth iawn. Stopiwch wneud pethau drwg, a dechrau bod yn garedig at bobl dlawd. Falle, wedyn, y cewch chi ddal i fod yn llwyddiannus.”
28 Ond digwyddodd y cwbl i Nebwchadnesar.
29 Flwyddyn yn ddiweddarach pan oedd yn cerdded ar do ei balas brenhinol yn Babilon,
30 dwedodd fel yma: “Edrychwch ar Babilon, y ddinas wych yma! Fi sydd wedi adeiladu'r cwbl, yn ganolfan frenhinol i ddangos mor bwerus ac mor fawr ydw i.”
31 Doedd y brenin ddim wedi gorffen ei frawddeg pan glywodd lais o'r nefoedd yn dweud: “Dyma sy'n cael ei ddweud wrthot ti, y brenin Nebwchadnesar: mae dy deyrnas wedi ei chymryd oddi arnat ti!