Daniel 4:30-36 BNET

30 dwedodd fel yma: “Edrychwch ar Babilon, y ddinas wych yma! Fi sydd wedi adeiladu'r cwbl, yn ganolfan frenhinol i ddangos mor bwerus ac mor fawr ydw i.”

31 Doedd y brenin ddim wedi gorffen ei frawddeg pan glywodd lais o'r nefoedd yn dweud: “Dyma sy'n cael ei ddweud wrthot ti, y brenin Nebwchadnesar: mae dy deyrnas wedi ei chymryd oddi arnat ti!

32 Byddi'n cael dy gymryd allan o gymdeithas, yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion, ac yn bwyta glaswellt fel ychen. Bydd amser hir yn mynd heibio cyn i ti ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.”

33 A dyna ddigwyddodd yn syth wedyn. Daeth beth gafodd ei ddweud am Nebwchadnesar yn wir. Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Dechreuodd fwyta glaswellt, fel ychen. Roedd ei gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored, nes bod ei wallt wedi tyfu fel plu eryr, a'i ewinedd fel crafangau aderyn.

34 “Ond yn y diwedd, dyma fi, Nebwchadnesar, yn troi at yr Un nefol, a ces fy iacháu yn feddyliol. Dechreuais foli y Duw Goruchaf, ac addoli'r Un sy'n byw am byth.Mae ei awdurdod yn para am byth,ac mae'n teyrnasu o un genhedlaeth i'r llall.

35 Dydy pobl y byd i gyd yn ddim o'i gymharu ag e.Mae'n gwneud beth mae ei eisiaugyda'r grymoedd nefol, a phobl ar y ddaear.Does neb yn gallu ei stopiona'i herio trwy ddweud, ‘Beth wyt i'n wneud?’

36 “Pan ges i fy iacháu, ces fynd yn ôl i fod yn frenin, gydag anrhydedd ac ysblander. Daeth gweinidogion y llywodraeth a'r uchel-swyddogion i gyd i'm gwneud yn frenin unwaith eto. Roedd gen i fwy o awdurdod nag erioed!