8 Ond wedyn dyma Daniel yn dod (yr un gafodd ei alw'n Belteshasar, ar ôl y duw roeddwn i'n ei addoli) – mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo fe. A dyma fi'n dweud wrtho yntau beth oedd y freuddwyd.
9 “Belteshasar. Ti ydy'r prif swynwr. Dw i'n gwybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a does run dirgelwch yn peri penbleth i ti. Dw i eisiau i ti ddweud beth ydy ystyr y freuddwyd yma.
10 “Dyma beth welais i yn y freuddwyd:Roeddwn i'n gweld coeden fawryng nghanol y ddaear –roedd hi'n anhygoel o dal.
11 Roedd y goeden yn tyfu'n fawr ac yn gref.Roedd y goeden yn ymestyn mor uchel i'r awyrroedd i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd.
12 Roedd ei dail yn hardd,ac roedd digonedd o ffrwyth arni –digon o fwyd i bawb!Roedd anifeiliaid gwylltion yn cysgodi dani,ac adar yn nythu yn ei brigau.Roedd popeth byw yn cael eu bwyd oddi arni.
13 “Tra roeddwn yn gweld hyn yn y freuddwyd, dyma angel sanctaidd yn dod i lawr o'r nefoedd.
14 Dyma fe'n gweiddi'n uchel,‘Torrwch y goeden i lawr, a thorri ei changhennau i ffwrdd!Tynnwch ei dail a chwalu ei ffrwyth!Gyrrwch yr anifeiliaid i ffwrdd,a heliwch yr adar o'i brigau!