Daniel 6:10-16 BNET

10 Pan glywodd Daniel fod y gyfraith yma wedi ei harwyddo, aeth adre, a mynd ar ei liniau i weddïo fel roedd wedi gwneud bob amser. Roedd ganddo ystafell i fyny'r grisiau, a'i ffenestri'n agor i gyfeiriad Jerwsalem. Dyna ble roedd yn mynd dair gwaith bob dydd i weddïo ar Dduw a diolch iddo.

11 Dyma'r dynion oedd wedi cynllwyn gyda'i gilydd yn mynd i dŷ Daniel, a'i gael yno'n gweddïo ac yn gofyn i Dduw am help.

12 Felly dyma nhw'n mynd yn ôl at y brenin, ac yn ei atgoffa am y gwaharddiad. “Wnaethoch chi ddim arwyddo cyfraith yn gwahardd pobl am dri deg diwrnod rhag gweddïo ar unrhyw dduw na neb arall ond chi eich hun, eich mawrhydi? Ac yn dweud y byddai unrhyw un sy'n gwneud hynny yn cael ei daflu i'r llewod?” “Do, yn bendant,” meddai'r brenin. “Mae bellach yn rhan o gyfraith Media a Persia, sydd byth i gael ei newid.”

13 Yna dyma nhw'n dweud wrth y brenin, “Dydy'r dyn Daniel yna, oedd yn un o'r caethion o Jwda, yn cymryd dim sylw ohonoch chi na'ch gwaharddiad eich mawrhydi. Mae'n dal ati i weddïo ar ei Dduw dair gwaith bob dydd.”

14 Pan glywodd y brenin hyn, doedd e ddim yn hapus o gwbl. Roedd yn ceisio meddwl am ffordd i achub Daniel. Buodd wrthi drwy'r dydd yn ceisio meddwl am ffordd y gallai ei helpu.

15 Ond gyda'r nos dyma'r dynion yn mynd yn ôl gyda'i gilydd at y brenin, ac yn dweud wrtho, “Cofiwch, eich mawrhydi, fod y gwaharddiad yn rhan o gyfraith Media a Persia. Dydy cyfraith sydd wedi cael ei harwyddo gan y brenin byth i gael ei newid.”

16 Felly dyma'r brenin yn gorchymyn dod â Daniel ato, a'i fod i gael ei daflu i ffau'r llewod. Ond meddai'r brenin wrth Daniel, “Bydd dy Dduw, yr un rwyt ti'n ei addoli mor ffyddlon, yn dy achub di.”