Daniel 6:7-13 BNET

7 Mae comisiynwyr y deyrnas, yr uchel-swyddogion, penaethiaid y taleithiau, a chynghorwyr y brenin, a'r llywodraethwyr yn meddwl y byddai'n syniad da i'r brenin wneud cyfraith newydd yn gorchymyn fel hyn: ‘Am dri deg diwrnod mae pawb i weddïo arnoch chi, eich mawrhydi. Os ydy rhywun yn gweddïo ar unrhyw dduw neu ar unrhyw berson arall, bydd yn cael ei daflu i ffau'r llewod.’

8 Felly, eich mawrhydi, cyhoeddwch y gwaharddiad ac arwyddo'r ddogfen, fel ei bod yn gwbl amhosib i'w newid. Bydd yn rhan o gyfraith Media a Persia, sy'n aros, a byth i gael ei newid.”

9 Felly dyma'r brenin Dareius yn arwyddo'r gwaharddiad.

10 Pan glywodd Daniel fod y gyfraith yma wedi ei harwyddo, aeth adre, a mynd ar ei liniau i weddïo fel roedd wedi gwneud bob amser. Roedd ganddo ystafell i fyny'r grisiau, a'i ffenestri'n agor i gyfeiriad Jerwsalem. Dyna ble roedd yn mynd dair gwaith bob dydd i weddïo ar Dduw a diolch iddo.

11 Dyma'r dynion oedd wedi cynllwyn gyda'i gilydd yn mynd i dŷ Daniel, a'i gael yno'n gweddïo ac yn gofyn i Dduw am help.

12 Felly dyma nhw'n mynd yn ôl at y brenin, ac yn ei atgoffa am y gwaharddiad. “Wnaethoch chi ddim arwyddo cyfraith yn gwahardd pobl am dri deg diwrnod rhag gweddïo ar unrhyw dduw na neb arall ond chi eich hun, eich mawrhydi? Ac yn dweud y byddai unrhyw un sy'n gwneud hynny yn cael ei daflu i'r llewod?” “Do, yn bendant,” meddai'r brenin. “Mae bellach yn rhan o gyfraith Media a Persia, sydd byth i gael ei newid.”

13 Yna dyma nhw'n dweud wrth y brenin, “Dydy'r dyn Daniel yna, oedd yn un o'r caethion o Jwda, yn cymryd dim sylw ohonoch chi na'ch gwaharddiad eich mawrhydi. Mae'n dal ati i weddïo ar ei Dduw dair gwaith bob dydd.”