1 Dyma Dareius o Media, mab Ahasferus, yn cael ei wneud yn frenin ar Ymerodraeth Babilon.
2 Yn ystod blwyddyn gyntaf ei deyrnasiad roeddwn i, Daniel, wedi bod yn darllen yr ysgrifau sanctaidd. Dyma fi'n gweld fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth y proffwyd Jeremeia y byddai Jerwsalem yn adfeilion am saith deg o flynyddoedd.
3 Felly dyma fi'n troi at Dduw, y Meistr, a pledio arno mewn gweddi. Ro'n i'n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi rhoi lludw ar fy mhen.
4 Ro'n i'n gweddïo ar yr ARGLWYDD fy Nuw, a cyffesu, “O Feistr, plîs! Ti ydy'r Duw mawr a rhyfeddol! Ti'n Dduw ffyddlon sy'n cadw dy ymrwymiad i'r bobl sy'n dy garu ac sy'n ufudd i ti.
5 Ond dŷn ni wedi pechu a gwneud beth sy'n ddrwg. Dŷn ni wedi gwrthryfela, ac wedi troi cefn ar dy orchmynion di a dy safonau di.