13 Mae wedi digwydd yn union fel mae cyfraith Moses yn dweud. Ac eto dŷn ni ddim wedi gwneud pethau'n iawn gyda'r ARGLWYDD ein Duw drwy droi cefn ar ein pechod a cydnabod dy fod ti'n ffyddlon.
14 Roedd yr ARGLWYDD yn gwybod beth oedd e'n wneud, a daeth â'r dinistr arnon ni. Mae popeth mae'r ARGLWYDD yn ei wneud yn iawn, a doedden ni ddim wedi gwrando arno.
15 “Felly, o Dduw ein Meistr ni, sy'n enwog hyd heddiw am dy gryfder yn arwain dy bobl allan o wlad yr Aifft: dŷn ni wedi pechu a gwneud drwg.
16 O Feistr, rwyt ti bob amser yn gwneud beth sy'n iawn; plîs stopia fod yn wyllt gyda dy ddinas, Jerwsalem, a'r mynydd rwyt wedi ei gysegru. Am ein bod ni wedi pechu, a'n hynafiaid wedi gwneud cymaint o ddrwg, dydy Jerwsalem a dy bobl di yn ddim byd ond testun sbort i bawb o'u cwmpas nhw!
17 Felly, o Dduw, gwrando ar dy was yn pledio a gweddïo arnat ti. Er dy fwyn dy hun wnei di edrych yn garedig eto ar dy deml sydd wedi ei dinistrio.
18 O Dduw, gwrando'n astud ar beth dw i'n ofyn. Edrych ar stad y ddinas yma sy'n cael ei chysylltu â dy enw di! Dŷn ni ddim yn gweddïo fel yma am ein bod ni'n honni ein bod wedi gwneud beth sy'n iawn, ond am dy fod ti mor anhygoel o drugarog.
19 O Feistr, gwrando! O Feistr, maddau! O Feistr, edrych a gwna rywbeth! O Dduw, paid oedi – er dy fwyn dy hun! Er mwyn dy ddinas, a'r bobl sy'n cael eu cysylltu â dy enw di.”