1 Diarhebion Solomon, mab Dafydd, brenin Israel:
2 I dy helpu i fod yn ddoeth a dysgu byw yn iawn;ac i ti ddeall beth sy'n gyngor call.
3 I ti ddysgu sut i fod yn bwyllog,yn gyfiawn, yn gytbwys, ac yn deg.
4 I ddysgu rhai gwirion i fod yn gall,a dangos y ffordd iawn i bobl ifanc.
5 (Bydd y doeth yn gwrando ac eisiau dysgu mwy;a'r rhai sy'n gall yn derbyn arweiniad.)
6 Hefyd i ti ddeall dihareb a gallu dehonglidywediadau doeth a phosau.
7 Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf at wybodaeth;does gan ffyliaid ddim diddordeb mewn bod yn ddoeth na dysgu byw yn iawn.