1 Mae doethineb yn galw,a deall yn codi ei llais.
2 Mae hi'n sefyll ar fannau uchaf y dref,wrth ymyl y croesffyrdd,
3 ac wrth ymyl giatiau'r ddinas.Mae hi'n gweiddi wrth y fynedfa,
4 “Dw i'n galw arnoch chi i gyd, bobl!Dw i'n galw ar y ddynoliaeth gyfan.
5 Chi rai gwirion, dysgwch sut mae bod yn gall;chi bobl ddwl, dysgwch chithau rywbeth.
6 Gwrandwch, achos mae gen i bethau gwych i'w dweud;dw i am ddweud beth sy'n iawn wrthoch chi.
7 Dw i bob amser yn dweud y gwir;mae'n gas gen i gelwydd.
8 Mae pob gair dw i'n ddweud yn iawn,does dim twyll, dim celwydd.
9 Mae'r peth yn amlwg i unrhyw un sy'n gall,ac mae unrhyw un craff yn gweld eu bod yn iawn.
10 Cymer beth dw i'n ei ddysgu, mae'n well nag arian;ac mae'r arweiniad dw i'n ei roi yn well na'r aur gorau.”
11 Ydy, mae doethineb yn well na gemau gwerthfawr;does dim byd tebyg iddi.
12 “Dw i, Doethineb, yn byw gyda callineb;fi sy'n dangos y ffordd iawn i bobl.
13 Mae parchu'r ARGLWYDD yn golygu casáu'r drwg.Dw i'n casáu balchder snobyddlyd,pob ymddygiad drwg a thwyll.
14 Fi sy'n rhoi cyngor doeth,fi ydy'r ffordd orau a fi sy'n rhoi cryfder.
15 Fi sy'n rhoi'r gallu i frenhinoedd deyrnasu,ac i lywodraethwyr lunio cyfreithiau cyfiawn.
16 Dw i'n galluogi arweinwyr i reoli,a pobl fawr a barnwyr i wneud y peth iawn.
17 Dw i'n caru'r rhai sy'n fy ngharu i,ac mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn fy nghael.
18 Dw i'n rhoi cyfoeth ac anrhydedd i bobl,cyfoeth sy'n para, a thegwch.
19 Mae fy ffrwyth i yn well nag aur, ie, aur coeth,a'r cynnyrch sydd gen i yn well na'r arian gorau.
20 Dw i'n dangos y ffordd i fyw'n gyfiawn,a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg.
21 Dw i'n rhoi etifeddiaeth gyfoethog i'r rhai sy'n fy ngharu;ac yn llenwi eu trysordai nhw.
22 Roedd yr ARGLWYDD wedi fy ngeni icyn iddo wneud dim byd arall.
23 Ces fy apwyntio yn bell, bell yn ôl,ar y dechrau cyntaf, cyn i'r ddaear fodoli.
24 Doedd y moroedd ddim yno pan gyrhaeddais i,a doedd dim ffynhonnau yn llawn dŵr.
25 Doedd y mynyddoedd ddim wedi eu gosod yn eu lle,a doedd y bryniau ddim yn bodoli.
26 Doedd y ddaear a chefn gwlad ddim yna,na hyd yn oed y talpiau cyntaf o bridd.
27 Roeddwn i yno pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le;a phan farciodd y gorwel ar wyneb y moroedd.
28 Pan roddodd y cymylau yn yr awyr,a pan wnaeth i'r ffynhonnau ddechrau tasgu dŵr.
29 Pan osododd ffiniau i'r môr,fel bod y dŵr ddim yn anufudd iddo;a pan osododd sylfeini'r ddaear.
30 Roeddwn i yno fel crefftwr,yn rhoi pleser pur iddo bob dydd,wrth ddawnsio a dathlu'n ddi-stop o'i flaen.
31 Roeddwn i'n dawnsio ar wyneb y ddaear,ac roedd y ddynoliaeth yn rhoi pleser pur i mi.
32 Nawr, blant, gwrandwch arna i;Mae'r rhai sy'n gwneud beth dw i'n ddweud mor hapus.
33 Gwrandwch ar beth dw i'n ddweud a byddwch ddoeth;peidiwch troi cefn arno.
34 Mae'r rhai sy'n gwrando arna i yn derbyn y fath fendith,maen nhw'n gwylio amdana i wrth y drws bob dydd,yn disgwyl i mi ddod allan.
35 Mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn cael bywyd;mae'r ARGLWYDD yn dda atyn nhw.