1 Mae'r un sy'n cadw ar wahân yn plesio ei hun,ac yn gwrthod unrhyw gyngor doeth.
2 Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall,dim ond lleisio'i farn ei hun.
3 Mae dirmyg yn dilyn y drwg,a gwawdio yn dilyn gwarth.
4 Mae geiriau rhywun fel dŵr dwfn;ffynnon o ddoethineb fel nant yn llifo.
5 Dydy dangos ffafr at yr euog ddim yn beth da,na gwrthod cyfiawnder i'r dieuog.
6 Mae geiriau ffŵl yn achosi ffrae;mae'n gofyn am drwbwl!
7 Mae siarad ffŵl yn arwain i ddinistr;mae'n cael ei rwydo gan ei eiriau ei hun.
8 Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus –mae'r cwbl yn cael ei lyncu.
9 Mae'r un sy'n ddiog yn ei waithyn perthyn yn agos i'r fandal.
10 Mae enw'r ARGLWYDD fel tŵr solet;mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff.
11 Ond caer ddiogel y cyfoethog ydy ei gyfoeth;mae'n dychmygu ei fod yn wal uchel i'w amddiffyn.
12 Cyn i'r chwalfa ddod roedd digon o frolio;gostyngeiddrwydd sy'n arwain i anrhydedd.
13 Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arnoyn beth dwl i'w wneud, ac yn dangos diffyg parch.
14 Gall ysbryd rhywun ei gynnal drwy afiechyd;ond mae iselder ysbryd yn faich trwm i'w gario.
15 Mae'r person call am ddysgu mwy;ac mae'r doeth yn chwilio am wybodaeth.
16 Mae rhoi rhodd i rywun yn agor drysaui gyfarfod pobl bwysig.
17 Mae'r cyntaf i gyflwyno ei dystiolaeth yn ymddangos yn iawnnes i rywun ddod a'i groesholi.
18 Mae taflu coelbren yn rhoi terfyn ar ffraeo,ac yn setlo dadl ffyrnig.
19 Mae perthynas wedi digio yn ystyfnig fel caer;a chwerylon fel barrau i gloi giatiau castell.
20 Rhaid i rywun ddysgu byw gyda'i eiriau;mae dweud y peth iawn yn rhoi boddhad.
21 Mae'r tafod yn gallu rhoi bywyd a marwolaeth;ac mae'r rhai sy'n hoffi siarad yn gorfod byw gyda'u geiriau.
22 Mae'r dyn sydd wedi ffeindio gwraig yn hapus;mae'r ARGLWYDD wedi bod yn dda ato.
23 Mae'r person tlawd yn pledio am help;ond mae'r cyfoethog yn ei ateb yn swta.
24 Mae rhai ffrindiau yn gallu brifo rhywun,ond mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd.