1 Fy mab, gwna beth dw i'n ddweud;a thrysori'r hyn dw i'n ei orchymyn.
2 Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da;paid tynnu dy lygad oddi ar beth dw i'n ddysgu.
3 Cadw nhw fel modrwy ar dy fys;ysgrifenna nhw ar lech dy galon.
4 Dywed wrth ddoethineb, “Ti fel chwaer i mi,”a gwna gyngor doeth yn ffrind gorau.
5 Bydd yn dy warchod di rhag y wraig anfoesol;rhag yr un llac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg.
6 Roeddwn i'n sefyll yn y tŷ,ac yn edrych allan o'r ffenest.
7 Gwelais fachgen ifanc a dim sens ganddogyda chriw gwyllt o bobl ifanc.
8 Roedd yn croesi'r stryd at y groesfforddsy'n arwain at ei thŷ hi.
9 Roedd hi'n hwyr yn y dydd,ac yn dechrau nosi a thywyllu.
10 Yn sydyn dyma'r wraig yn dod allan i'w gyfarfod,wedi ei gwisgo fel putain – roedd ei bwriad hi'n amlwg.
11 (Dynes swnllyd, ddigywilydd,sydd byth yn aros adre.
12 Ar y stryd un funud, ar y sgwâr y funud nesa,yn loetran ar bob cornel.)
13 Mae hi'n gafael yn y bachgen a'i gusanu,ac yn dweud yn bowld:
14 “Tyrd, mae gen i fwyd adre – cig yr offrwm rois i;dw i wedi gwneud popeth oedd ei angen.
15 A dyma fi, wedi dod allan i dy gyfarfod di –roeddwn i'n edrych amdanat ti, a dyma ti!
16 Dw i wedi paratoi'r gwely!Mae yna gynfasau glân arno,a chwilt lliwgar hyfryd o'r Aifft.
17 Mae'n arogli'n hyfryd o bersawr –myrr, aloes, a sinamon.
18 Tyrd, gad i ni ymgolli mewn pleserau rhywiol;mwynhau ein hunain yn caru drwy'r nos.
19 Dydy'r gŵr ddim adre –mae e wedi mynd ar daith bell.
20 Mae e wedi mynd gyda'i arian, ar fusnes,a fydd e ddim yn ôl tan ddiwedd y mis.”
21 Dyma hi'n llwyddo i'w berswadio;roedd wedi ei ddenu gyda'i fflyrtian.
22 Dyma'r llanc yn mynd ar ei hôl ar unwaith,fel ych yn mynd i'r lladd-dy,neu garw yn neidio i drap
23 cyn i saeth ei drywanu!Roedd fel aderyn wedi hedfan yn syth i'r rhwyd,heb sylweddoli ei fod yn mynd i golli ei fywyd.
24 Nawr gwrandwch arna i, fechgyn;gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud:
25 Peidiwch hyd yn oed meddwl amdani;peidiwch mynd yn agos ati.
26 Mae hi wedi achosi i lawer un syrthio;mae yna fyddin o ddynion cryf wedi diodde!