Diarhebion 16 BNET

1 Mae pobl yn gallu gwneud penderfyniadau,ond yr ARGLWYDD sydd a'r gair olaf.

2 Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn,ond mae'r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion.

3 Rho bopeth wnei di yn nwylo'r ARGLWYDD,a bydd dy gynlluniau'n llwyddo.

4 Mae gan yr ARGLWYDD bwrpas i bopeth mae'n ei wneud,hyd yn oed pobl ddrwg ar gyfer dydd dinistr.

5 Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl falch;fyddan nhw'n sicr ddim yn osgoi cael eu cosbi.

6 Mae caredigrwydd a ffyddlondeb yn cuddio beiau pobl eraill,a dangos parch at yr ARGLWYDD yn troi rhywun oddi wrth ddrwg.

7 Pan mae ymddygiad rhywun yn plesio'r ARGLWYDD,mae hyd yn oed ei elynion yn troi'n ffrindiau.

8 Mae'n well cael ychydig a byw'n iawn,na chael cyfoeth mawr drwy fod yn anonest.

9 Mae pobl yn gallu cynllunio beth i'w wneud,ond yr ARGLWYDD sy'n arwain y ffordd.

10 Y brenin sy'n dweud beth ydy beth;dydy e byth yn barnu'n annheg.

11 Mae'r ARGLWYDD eisiau clorian teg;rhaid i bob un o'r pwysau sy'n y gôd fod yn gywir.

12 Mae brenhinoedd yn casáu torcyfraith,am mai cyfiawnder sy'n gwneud gorsedd yn ddiogel.

13 Mae dweud y gwir yn ennill ffafr brenhinoedd;maen nhw'n hoffi pobl onest.

14 Mae gwylltio brenin yn arwain i farwolaethond bydd person doeth yn gallu ei dawelu.

15 Mae gwên ar wyneb y brenin yn arwain i fywyd;mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.

16 Mae dysgu bod yn ddoeth yn llawer gwell nag aur;a chael deall yn well nag arian.

17 Mae ffordd glir o flaen yr un sy'n osgoi drygioni;ac mae'r person sy'n gwylio ble mae'n mynd yn saff.

18 Mae balchder yn dod o flaen dinistr,a brolio cyn baglu.

19 Mae'n well bod yn ostyngedig gyda'r anghenusna rhannu ysbail gyda'r balch.

20 Mae'r un sy'n gwrando ar neges Duw yn llwyddo;a'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn hapus.

21 Mae'r person doeth yn cael ei gyfri'n gall;ac mae geiriau caredig yn helpu rhywun i ddysgu.

22 Mae synnwyr cyffredin fel ffynnon sy'n rhoi bywyd i rywun,ond mae ffyliaid yn talu'r pris am eu ffolineb.

23 Mae person doeth yn meddwl cyn siarad;mae ei eiriau yn dwyn perswâd.

24 Mae geiriau caredig fel diliau mêl,yn felys eu blas ac yn iach i'r corff.

25 Mae yna ffordd o fyw sy'n edrych yn iawn i bobl,ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw.

26 Mae'r angen am fwyd yn gwneud i rywun weithio'n galed,a bol gwag yn ei yrru yn ei flaen.

27 Mae dihiryn drwg yn chwilio am helynt,ac mae ei eiriau'n gwneud niwed fel tân.

28 Mae person croes yn achosi cynnen,a'r un sy'n hel clecs yn chwalu ffrindiau.

29 Mae person treisgar yn denu pobl,ac yn eu harwain nhw i wneud pethau sydd ddim yn dda.

30 Mae'n wincio pan mae'n bwriadu twyllo,a rhoi ei fys ar ei wefusau wrth wneud drwg.

31 Mae gwallt gwyn fel coron hardd;mae i'w chael wrth fyw yn gyfiawn.

32 Mae ymatal yn well nag ymosod,a rheoli'r tymer yn well na choncro dinas.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31