Diarhebion 22 BNET

1 Mae enw da yn well na chyfoeth mawr,a charedigrwydd yn well nag arian ac aur.

2 Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd:yr ARGLWYDD wnaeth greu y ddau ohonyn nhw.

3 Mae'r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi;ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris.

4 Mae gostyngeiddrwydd a parch at yr ARGLWYDDyn arwain i gyfoeth, anrhydedd a bywyd.

5 Mae drain a maglau ar lwybr pobl sy'n twyllo;ond mae'r person sy'n ofalus yn cadw draw oddi wrthyn nhw.

6 Dysga blentyn y ffordd orau i fyw;a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e'n hŷn.

7 Fel mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd,mae'r un sydd mewn dyled yn gaethwas i'r benthyciwr.

8 Bydd y rhai sy'n hau drygioni yn medi helyntion,a bydd eu gwialen greulon yn cael ei thorri.

9 Bydd person hael yn cael ei fendithioam rannu ei fwyd gyda'r tlawd.

10 Taflwch allan yr un sy'n creu helynt, a bydd y cweryla'n peidio,bydd y ffraeo a'r sarhau yn stopio.

11 Pwy bynnag sy'n ddidwyll a'i eiriau'n garedig,bydd yn ffrindiau gyda'r brenin.

12 Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am yr un sy'n gwybod y gwir;ond mae'n tanseilio beth mae'r twyllwr yn ei ddweud.

13 Mae'r diogyn yn dweud, “Mae yna lew yna!Mae'n beryg bywyd i fynd allan i'r stryd.”

14 Mae fflyrtian y wraig anfoesol fel pwll dwfn;mae'r rhai sy'n digio'r ARGLWYDD yn syrthio iddo.

15 Pan mae ffolineb wedi cael gafael ar feddwl person ifanc,bydd gwialen disgyblaeth yn cael gwared ag e.

16 Dydy gwneud arian drwy gam-drin pobl dlawd,neu roi anrhegion i'r cyfoethog, yn ddim byd ond colled!

Y Tri Deg Cyngor Doeth

17 Gwranda'n astud ar beth mae'r doethion wedi ei ddweud;a meddylia am y pethau dw i'n eu dysgu i ti.

18 Mae'n beth da i'r rhain wreiddio'n ddwfn ynot tiac iddyn nhw fod ar flaen dy dafod bob amser.

19 Dw i am eu rhannu nhw hefo ti heddiw – ie, ti –er mwyn i ti drystio'r ARGLWYDD.

20 Dw i wedi eu hysgrifennu nhw i lawr –“Y Tri Deg Cyngor Doeth”,

21 i ti ddysgu'r gwir, a beth sy'n iawn,a mynd â'r atebion iawn i'r rhai wnaeth dy anfon di.

22 Paid dwyn oddi ar y tlawd, achos maen nhw'n dlawd;na chymryd mantais o bobl mewn angen yn y llys.

23 Bydd yr ARGLWYDD yn sefyll hefo nhw,ac yn gorthrymu'r rhai sy'n eu gorthrymu nhw.

24 Paid gwneud ffrindiau gyda rhywun piwis,na chadw cwmni rhywun sydd â thymer wyllt,

25 rhag i ti hefyd droi felly,a methu dianc.

26 Paid bod yn rhy barod i gytunoi dalu dyledion rhywun arall;

27 Os na fyddi di'n gallu talubyddi'n colli popeth, hyd yn oed dy wely!

28 Paid symud yr hen ffiniaugafodd eu gosod gan dy hynafiaid.

29 Pan weli di rywun sy'n fedrus yn ei waith –bydd hwnnw'n gwasanaethu brenhinoedd,nid pobl does neb wedi clywed amdanyn nhw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31