1 Diarhebion Solomon ydy'r rhain hefyd, wedi eu casglu gan weision Heseceia, brenin Jwda:
2 Braint Duw ydy cadw pethau'n ddirgelwch;braint brenhinoedd ydy chwilio a darganfod.
3 Fel mae'r awyr yn rhy uchel, a'r ddaear yn rhy ddofn,does neb yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddwl brenhinoedd.
4 Ar ôl gwahanu'r amhuredd o'r arian,mae'r gof yn gallu creu llestr hardd.
5 Ar ôl symud y rhai drwg o ŵydd y breninbydd cyfiawnder yn gwneud ei orsedd yn ddiogel.
6 Paid canmol dy hun o flaen y brenin,a mynd i eistedd yn y seddi pwysig.
7 Mae'n well cael rhywun yn dweud, “Symud i fyny,”na chael dy gywilyddio o flaen pobl bwysig.
8 Paid bod ar ormod o frys i fynd i'r llysam dy fod wedi gweld rhywbeth.Beth os fydd rhywun arall yn dweud yn groes i ti?
9 Trafod y peth yn breifat gyda'r person hwnnw,a paid dweud am y peth wrth neb arall.
10 Does gen ti ddim eisiau i rywun dy gondemnio di,ac i ti gael enw drwg am byth.
11 Mae gair o ganmoliaethfel gemwaith aur mewn tlws arian.
12 Mae gwrando ar gerydd gan rywun doethfel modrwy aur, neu dlws o aur coeth.
13 Mae negesydd ffyddlon yn adfywio ysbryd ei feistri,fel dŵr oer ar ddiwrnod poeth o gynhaeaf.
14 Cymylau a gwynt, ond dim glaw –felly mae'r un sy'n brolio'i haelioni, ond byth yn rhoi.
15 Gyda tipyn o amynedd gellir perswadio llywodraethwr;ac mae geiriau tyner yn delio gyda gwrthwynebiad.
16 Pan gei fêl, paid cymryd mwy nag wyt ei angen,rhag i ti fwyta gormod, a chwydu'r cwbl i fyny.
17 Paid mynd i dŷ rhywun arall yn rhy aml,rhag iddo gael llond bol, a throi yn dy erbyn di.
18 Mae tyst sy'n dweud celwydd mewn achos llysyn gwneud niwed fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth finiog.
19 Mae trystio rhywun sy'n ddi-ddal mewn amser anoddfel diodde o'r ddannodd neu fod yn simsan ar dy draed.
20 Mae canu caneuon i rywun sydd â chalon dristfel tynnu dillad ar ddiwrnod oer, neu roi halen ar friw.
21 Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo;os ydy e'n sychedig, rho ddŵr iddo i'w yfed.
22 Byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben,a bydd yr ARGLWYDD yn rhoi dy wobr i ti.
23 Mae gwynt y gogledd yn dod â glaw,a thafod sy'n bradychu cyfrinach yn dod â gwg.
24 Mae byw mewn cornel yn yr atigyn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
25 Mae derbyn newyddion da o wlad bellfel diod o ddŵr oer i wddf sych.
26 Mae dyn da sy'n plygu i ddyn drwgfel ffynnon yn llawn mwd neu bydew wedi ei ddifetha.
27 Dydy bwyta gormod o fêl ddim yn beth da,a dydy edrych am ganmoliaeth ddim yn iawn.
28 Mae rhywun sy'n methu rheoli ei dymerfel dinas a'i waliau wedi eu bwrw i lawr.