12 Gad i ni eu llyncu nhw'n fyw, fel y bedd;a rhoi crasfa iawn iddyn nhw, nes byddan nhw bron marw.
13 Cawn ni pob math o bethau gwerthfawr;a llenwi ein tai gyda phethau wedi eu dwyn.
14 Tyrd gyda ni! Bydd yn fentrus! –byddwn yn rhannu popeth gawn ni.”
15 Fy mab, paid mynd y ffordd yna;cadw draw oddi wrthyn nhw.
16 Maen nhw'n rhuthro i wneud drwg;maen nhw ar frys i dywallt gwaed.
17 Fel mae'r rhwyd sy'n cael ei gosodyn golygu dim byd i'r aderyn,
18 dŷn nhw ddim yn gweld y perygl –maen nhw'n dinistrio eu bywydau eu hunain!