19 Ie, dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n elwa ar draul eraill;mae ymddwyn felly yn difetha bywyd y person ei hun!
20 Mae doethineb yn gweiddi ar y strydoedd,ac yn codi ei llais ar y sgwâr.
21 Mae'n sefyll ar gorneli'r strydoedd prysur ac yn galw allan;ac yn dweud ei dweud wrth giatiau'r ddinas:
22 “Ydych chi bobl wirion yn mwynhau anwybodaeth?Ydych chi sy'n gwawdio am ddal ati?A chi rai dwl, ydych chi byth eisiau dysgu?
23 Peidiwch diystyru beth dw i'n ddweud!Dw i'n mynd i dywallt fy nghalon,a dweud beth sydd ar fy meddwl wrthoch chi.
24 Roeddech chi wedi gwrthod ymateb pan o'n i'n galw,ac yn cymryd dim sylw pan wnes i estyn llaw atoch chi.
25 Roeddech chi'n diystyru'r cyngor oedd gen iac yn gwrthod gwrando arna i'n ceryddu.