22 “Ydych chi bobl wirion yn mwynhau anwybodaeth?Ydych chi sy'n gwawdio am ddal ati?A chi rai dwl, ydych chi byth eisiau dysgu?
23 Peidiwch diystyru beth dw i'n ddweud!Dw i'n mynd i dywallt fy nghalon,a dweud beth sydd ar fy meddwl wrthoch chi.
24 Roeddech chi wedi gwrthod ymateb pan o'n i'n galw,ac yn cymryd dim sylw pan wnes i estyn llaw atoch chi.
25 Roeddech chi'n diystyru'r cyngor oedd gen iac yn gwrthod gwrando arna i'n ceryddu.
26 Ond fi fydd yn chwerthin pan fyddwch chi mewn trafferthion;fi fydd yn gwawdio pan fyddwch chi'n panicio!
27 Bydd dychryn yn dod arnoch chi fel storm,a thrychineb yn eich taro chi fel corwynt!Byddwch mewn helbul ac mewn argyfwng go iawn.
28 Byddwch chi'n galw arna i bryd hynny,ond fydda i ddim yn ateb;byddwch chi'n chwilio'n daer amdana i,ond yn methu dod o hyd i mi.