28 Byddwch chi'n galw arna i bryd hynny,ond fydda i ddim yn ateb;byddwch chi'n chwilio'n daer amdana i,ond yn methu dod o hyd i mi.
29 Roeddech chi wedi gwrthod dysgu,ac wedi dangos dim parch at yr ARGLWYDD.
30 Gwrthod y cyngor rois i,a cymryd dim sylw pan oeddwn i'n dweud y drefn.
31 Felly bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau eich ffyrdd,a byddwch wedi cael llond bol ar eich cynlluniau.
32 Bydd anufudd-dod pobl wirion yn eu lladd nhw,a difaterwch pobl ddwl yn eu dinistrio.