1 Diarhebion Solomon:Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus;ond plentyn ffôl yn gwneud ei fam yn drist.
2 Dydy ennill ffortiwn trwy dwyll o ddim lles,ond mae gonestrwydd yn achub bywyd o berygl marwol.
3 Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gadael i rywun cyfiawn lwgu,Ond mae'n rhwystro'r rhai drwg rhag cael beth maen nhw eisiau.
4 Mae diogi yn arwain i dlodi,ond gwaith caled yn ennill cyfoeth.
5 Mae'r un sy'n casglu ei gnwd yn yr haf yn gall,ond yr un sy'n cysgu drwy'r cynhaeaf yn achosi cywilydd.