12 Mae casineb yn codi twrw,ond mae cariad yn cuddio pob bai.
13 Mae pobl gall yn siarad yn ddoeth,ond gwialen sydd ei angen ar rai sydd heb synnwyr cyffredin.
14 Mae pobl ddoeth yn storio gwybodaeth;ond mae siarad dwl yn dod â dinistr yn agos.
15 Mae holl eiddo'r cyfoethog fel caer ddiogel;ond tlodi'r tlawd yn ddinistr.
16 Gwobr y person sy'n byw'n iawn ydy bywyd;ond cosb am bechod ydy cyflog pobl ddrwg.
17 Mae derbyn cyngor yn arwain i fywyd,ond gwrthod gwrando ar gerydd yn arwain ar gyfeiliorn.
18 Mae'r un sy'n cuddio casineb yn twyllo,a'r sawl sy'n enllibio pobl eraill yn ffŵl.