15 Mae holl eiddo'r cyfoethog fel caer ddiogel;ond tlodi'r tlawd yn ddinistr.
16 Gwobr y person sy'n byw'n iawn ydy bywyd;ond cosb am bechod ydy cyflog pobl ddrwg.
17 Mae derbyn cyngor yn arwain i fywyd,ond gwrthod gwrando ar gerydd yn arwain ar gyfeiliorn.
18 Mae'r un sy'n cuddio casineb yn twyllo,a'r sawl sy'n enllibio pobl eraill yn ffŵl.
19 Mae siarad gormod yn siŵr o dramgwyddo rhywun;mae'r person call yn brathu ei dafod.
20 Mae geiriau person da fel arian gwerthfawr,ond dydy syniadau pobl ddrwg yn dda i ddim.
21 Mae cyngor person da yn fwyd i gynnal pobl,ond mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr cyffredin.