19 Mae siarad gormod yn siŵr o dramgwyddo rhywun;mae'r person call yn brathu ei dafod.
20 Mae geiriau person da fel arian gwerthfawr,ond dydy syniadau pobl ddrwg yn dda i ddim.
21 Mae cyngor person da yn fwyd i gynnal pobl,ond mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr cyffredin.
22 Bendith yr ARGLWYDD sy'n cyfoethogi bywyd,dydy ymdrech dynol yn ychwanegu dim ato.
23 Mae ffŵl yn cael sbort wrth wneud drygau,ond doethineb sy'n rhoi mwynhad i bobl gall.
24 Bydd yr hyn mae pobl ddrwg yn ei ofni yn digwydd iddyn nhw;ond bydd rhai sy'n byw'n iawn yn cael beth maen nhw eisiau.
25 Fydd dim sôn am bobl ddrwg pan fydd y corwynt wedi mynd heibio,Ond mae sylfeini'r rhai sy'n byw'n iawn yn aros yn gadarn.