2 Dydy ennill ffortiwn trwy dwyll o ddim lles,ond mae gonestrwydd yn achub bywyd o berygl marwol.
3 Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gadael i rywun cyfiawn lwgu,Ond mae'n rhwystro'r rhai drwg rhag cael beth maen nhw eisiau.
4 Mae diogi yn arwain i dlodi,ond gwaith caled yn ennill cyfoeth.
5 Mae'r un sy'n casglu ei gnwd yn yr haf yn gall,ond yr un sy'n cysgu drwy'r cynhaeaf yn achosi cywilydd.
6 Mae cawodydd o fendith yn disgyn ar y cyfiawn,ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb.
7 Mae'n fendith cofio am rywun cyfiawn,ond bydd enw'r drwg yn pydru.
8 Mae'r un sy'n ddoeth yn derbyn cyngor,ond mae'r ffŵl sy'n siarad dwli yn syrthio.