26 Mae anfon rhywun diog ar neges,fel yfed finegr, neu gael mwg yn eich llygaid.
27 Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi bywyd hir i chi,ond mae blynyddoedd y rhai drwg yn cael eu byrhau.
28 Gall y cyfiawn edrych ymlaen at lawenydd,ond does gan bobl ddrwg ddim gobaith.
29 Mae'r ARGLWYDD yn gaer i amddiffyn y rhai sy'n byw yn iawn,ond bydd pobl ddrwg yn cael eu dinistrio.
30 Fydd y cyfiawn byth yn cael ei symud;ond fydd y rhai drwg ddim yn cael byw yn y tir.
31 Mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn siarad yn gall,ond bydd y rhai sy'n twyllo yn cael eu tewi.