5 Mae'r un sy'n casglu ei gnwd yn yr haf yn gall,ond yr un sy'n cysgu drwy'r cynhaeaf yn achosi cywilydd.
6 Mae cawodydd o fendith yn disgyn ar y cyfiawn,ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb.
7 Mae'n fendith cofio am rywun cyfiawn,ond bydd enw'r drwg yn pydru.
8 Mae'r un sy'n ddoeth yn derbyn cyngor,ond mae'r ffŵl sy'n siarad dwli yn syrthio.
9 Mae'r un sy'n byw yn onest yn byw'n ddibryder,Ond bydd y gwir yn dod i'r golwg am yr un sy'n twyllo.
10 Mae'r un sy'n wincio o hyd yn creu helynt;ond mae'r sawl sy'n ceryddu'n agored yn dod â heddwch.
11 Mae geiriau person cyfiawn yn ffynnon sy'n rhoi bywyd,ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb.