26 Mae'r un sy'n cadw ei ŷd iddo'i hun yn haeddu melltith,ond mae'r un sy'n ei werthu yn cael ei fendithio.
27 Mae'r un sy'n ymdrechu i wneud da yn ennill ffafr;ond drwg ddaw ar y rhai sy'n edrych am helynt.
28 Bydd rhywun sy'n dibynnu ar ei gyfoeth yn syrthio,ond y rhai sy'n byw yn iawn yn blodeuo.
29 Bydd yr un sy'n creu trwbwl i'w deulu yn etifeddu dim;bydd y ffŵl yn gaethwas i rywun sydd wedi bod yn ddoeth.
30 Mae byw yn iawn yn dwyn ffrwyth,fel coeden sy'n rhoi bywyd;ond mae trais yn lladd pobl.
31 Os ydy'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael eu tâl ar y ddaear,beth ddaw o'r rhai drwg sy'n anufudd i Dduw?